Mae’r paratoadau ar y gweill ar gyfer cynhadledd Bord Gron y Bridwyr Defaid: Datrysiadau bridio mewn byd sy’n newid - digwyddiad a gynhelir bob yn ail flwyddyn ar gyfer y diwydiant defaid.
Fe’i gynhelir dros dri diwrnod yng nghanolbarth Lloegr rhwng 20-22 Tachwedd 2026. Anogir unrhyw un â diddordeb yn y sector defaid i fynychu ac elwa o’r trafodaethau diddorol ar heriau a chyfleoedd y dyfodol, yn ogystal â gwybodaeth a chyngor ymarferol.
Bydd y datblygiadau diweddaraf mewn geneteg a’u heffaith ar y gadwyn gyflenwi’n cael eu hystyried, yn ogystal â phynciau eraill yn cynnwys proffidioldeb, cynaliadwyedd, iechyd, yr amgylchedd a lleihau carbon.
Am fwy o wybodaeth ar ddigwyddiad SBRT 2026, y rhaglen lawn a'r gallu i brynu tocynnau, ewch i: Sheep Breeders Round Table (SBRT) 2026





