Mynychodd HCC gynhadledd Gŵyl Ddewi Coleg Brenhinol y Bydwragedd yn Abertawe yn ddiweddar i dynnu sylw at bwysigrwydd cig coch yn ystod ac ar ôl beichiogrwydd.
Roedd yn gyfle i siarad gyda bydwragedd a’r gymuned bydwreigiaeth ehangach am nodweddion maethol cig coch tra’r oedden nhw’n mwynhau cyfle i gysylltu, cydweithio a manteisio ar gyfleoedd dysgu amrywiol. Rhannwyd rysetiau ac adnoddau ar y maetholion a fitaminau pwysig mewn cig coch i’w dosbarthu ymysg eu cleifion.
Roedd yr ymateb gan y bydwragedd yn gadarnhaol iawn gyda nifer yn cytuno ar bwysigrwydd cig coch fel rhan o ddiet cytbwys yn ystod beichiogrwydd a thu hwnt i hynny.





