Yr wythnos ddiwethaf, mynychodd Dr Eleri Thomas gynhadledd flynyddol Cymdeithas Gwyddor Anifeiliaid Prydain ac Iwerddon (BISAS) ble bu’n cyflwyno ar waith ymchwil a datblygu HCC.
Thema’r gynhadledd oedd ‘Gwyddor Anifeiliaid: y diwydiant ac academia yn cefnogi cynhyrchu da byw mewn systemau bwyd cynaliadwy,’ gan roi sylw i’r cysylltiad hanfodol rhwng ymchwilwyr a’r diwydiant.
Meddai Dr Thomas: “Roedd yn ddigwyddiad addas i’w fynychu i amlinellu’r prosiectau cyffrous ym mhortffolio ymchwil HCC. Mae’r rhain yn cynnwys Cam 2 o Raglen Geneteg Defaid Cymru, Peilot Llinell Sylfaen yr Amgylchedd sy’n brosiect i’r DU gyfan, Glaswelltir LUNZ a Smart Nutrient Cymru. Mae’r prosiectau cydweithredol yma’n edrych ar wahanol agweddau o amaethyddiaeth a chynhyrchu bwyd ond mae ganddynt yr un nod, sef gwella effeithiolrwydd a chynaliadwyedd y sector i’r dyfodol.”
Noddwyd y sesiwn y bu Dr Thomas yn rhan ohoni ar y cyd gan HCC a’r NSA. Roedd yn edrych ar effeithiau geneteg a maeth ar berfformiad anifeiliaid cnoi cil bach.
Ychwanegodd: “Roedd y gynulleidfa’n cynnwys sefydliadau eraill o’r diwydiant, ymchwilwyr ac academyddion, a phob un â gwir ddiddordeb yn natblygiad gwyddor anifeiliaid a chynhyrchu da byw. Roedd cytundeb cyffredinol bod tystiolaeth a data yn angenrhediol ar gyfer meithrin datblygiadau arloesol a chynaliadwy.”





