Mae cynhyrchion PGI newydd ar gyfer Cigoedd Oen ac Eidion Cymru gan Edwards y Cigydd Cymreig wedi cyrraedd silffoedd archfarchnadoedd yn y siopau ac ar-lein.
Yn dilyn llwyddiant pelenni Cig Oen Cymru a chynhyrchion cig ffres adnabyddus eraill yn eu siopau, mae Tesco bellach yn gwerthu byrgyrs Cig Oen Cymru PGI a Bricyll, cebabau Kofta Cig Oen Cymru PGI a sleisys ochr orau'r forddwyd o Gig Edion Cymru PGI yn eu siopau yng Nghymru. Yn ogystal, mae’r mân-werthwr ar-lein Ocado yn stocio byrgyrs Cig Oen Cymru PGI ac Apricot, cebabau Kofta Cig Oen Cymru PGI, selsig Cig Oen Cymru PGI a Rhosmari a selsig Merguez Cig Oen Cymru PGI i'w dosbarthu ledled gwledydd Prydain.
Dywedodd Simon James, Rheolwr Gyfarwyddwr Edwards Y Cigydd Cymreig: “Rydym wrth ein bodd yn gweld y cynhyrchion Cig Oen Cymru PGI newydd hyn yn cael eu stocio gan Ocado a Tesco – sy'n dangos bod galw am gynhyrchion Cig Oen Cymru PGI a Chig Eidion Cymru PGI o ansawdd uchel ledled y DG.”
Meddai Laura Howells o Hybu Cig Cymru: “Hoffem longyfarch tîm Edwards am eu cynhyrchion Cig Oen Cymru PGI a Chig Eidion Cymru PGI newydd gwych. Rydym yn siŵr y byddan nhw’n llwyddiant ymhlith teuluoedd a chartrefi ledled Cymru a thu hwnt, ac y byddan nhw’n cynnig cyfle i fwy o bobl fwynhau Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru.”
Nod cynllun gweithredu strategol newydd HCC, a lansiwyd ym mis Mawrth 2026, yw cael mwy o gynhyrchion â brand Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru ar farchnad y DG.
Cewch hyd i fanylion llawn Cynllun Gweithredu newydd HCC fan hyn: https://meatpromotion.wales/cy/about/corporate-information-2/vision-2030/



