Yn ddiweddar, bu grŵp o fewnforwyr cig a newyddiadurwyr o’r Almaen yn ymweld â ffermydd a lladd-dai yng Nghymru i ddeall mwy am Gig Oen Cymru PGI ac i ehangu eu hystod o gynhyrchion Cig Oen Cymru â brand PGI .
Ymunwyd â phrynwyr o un o fewnforwyr cig arbenigol gorau’r Almaen gan newyddiadurwyr a chogyddion i weld drostynt eu hunain y ffordd unigryw y mae Cig Oen Cymru yn cael ei gynhyrchu.
Wedi'i drefnu gan y corff ardoll cig coch, Hybu Cig Cymru – Meat Promotion Wales, ymwelodd y grŵp â safle prosesu Dunbia yn Llanybydder, Sir Gaerfyrddin, yn ogystal â ffermydd defaid lleol. Ar ffermydd Rhun Williams yn Nhregaron a Richard Roderick yn Aberhonddu, gwelwyd arferion ffermio traddodiadol mewn amgylchedd naturiol lle mae Cig Oen Cymru yn cael ei gynhyrchu.
Roedd modd, hefyd, i’r grŵp flasu Cig Oen Cymru PGI drostynt eu hunain yng Ngwesty’r Falcondale yn Llanbedr Pont Steffan lle gweinwyd swper o Gig Oen Cymru.
Dywedodd Tom Coles, Rheolwr Gwerthu Cig Oen y DG yn Dunbia: “Roedd yn wych croesawu’r prynwyr hyn i ddysgu mwy am gynhyrchu Cig Oen Cymru PGI ar draws y gadwyn gyflenwi.
Rydym yn meithrin cysylltiadau â phrynwyr o’r Almaen ers blynyddoedd lawer, ac roedd yr ymweliad hwn yn caniatáu inni ddangos ein galluoedd unigryw mewn marchnad gig oen gystadleuol wrth amlygu’r cyfleoedd y mae Cig Oen Cymru PGI yn eu cynnig i ddefnyddwyr sy’n chwilio am gynhyrchion maethlon o ansawdd uchel.”

Mae marchnadoedd Ewrop yn dal i fod yn bwysig i Gig Oen Cymru PGI. Mae dadansoddiad HCC yn awgrymu bod gwerth allforion cig oen o Gymru i’r Almaen yn agos at £41 miliwn, sef 18% o gyfanswm yr hyn a allforiwyd o Gymru yn ystod 2025.*
Esboniodd Jason Craig, Arweinydd Datblygu’r Farchnad yn Hybu Cig Cymru: Roedd y prynwyr hyn wrth eu bodd yn gweld tirwedd Cymru yn ei holl ogoniant ac yn cwrdd â’r ffermwyr lleol, Richard Roderick a Rhun Williams, a rannodd eu gwybodaeth arbenigol a’r stori y tu ôl i Gig Oen Cymru. Yn yr un modd, roedden nhw wrth eu bodd â’r cyfleusterau prosesu cyfoes a phroffesiynol ar safle Dunbia.
“Mae’r daith wedi arwain at y mewnforiwr yn ceisio ehangu eu dewis o Gig Oen Cymru PGI a’r sylw a roddir i Gig Oen Cymru PGI gan y cyfryngau yn yr Almaen.
Roedd yr ymweliad yn rhan o flaenoriaeth HCC i gynyddu gwerthiant Cig Oen Cymru PGI a Chig Eidion Cymru PGI yn y marchnadoedd gartref a thramor, fel y cyhoeddwyd yn ddiweddar yn eu dogfen strategaeth Newydd, Gweledigaeth 2030.





