Skip to content
Eat Welsh Lamb & Welsh Beef

Cafodd treftadaeth, cymeriad ac enw da unigryw Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru eu cydnabod gan y Comisiwn Ewropeaidd trwy ennill statws prin Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI).

Visit website
Porc Blasus

Mae Cymru’n enwog am gynhyrchu Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru o safon, ond ddylen ni ddim anghofio am ein porc.

Visit website
Hwb Cig Coch

Mae'r Hwb Cig Coch yn cefnogi’r rhai sy’n gweithio mewn iechyd ac addysg trwy ddarparu adnoddau gwybodaeth a dysgu manwl ynghylch cig coch a maeth, diet cytbwys, tarddiad a diogelwch bwyd, prynu, storio, paratoi a choginio cig coch.

Share

Daeth carfan Cig-weithio 2025–26 ynghyd yn ddiweddar ar gyfer eu sesiwn grŵp olaf, gan nodi diwedd y rhaglen gyda thrafodaeth fyfyriol a diddorol am eu profiadau drwy gydol y flwyddyn.

Cynhaliwyd sesiwn y bore yn y Trallwng a bu’n gyfle i’r unigolion gyflwyno gwybodaeth am eu diwrnod yn y diwydiant, lle cawsant eu paru â mentoriaid o bob rhan o’r sector cig coch, yn cynnwys prosesydd Cymreig, aelod o Ganolfan Gwyddoniaeth Filfeddygol Cymru (WVSC), ac arbenigwr glaswelltir. Canmolodd yr aelodau’r lleoliadau hyn yn fawr, gan dynnu sylw at y profiadau ymarferol a’r cysylltiadau proffesiynol cryf a sefydlwyd i gefnogi datblygiad eu gyrfaoedd.

Yn ystod y sesiwn, cyflwynodd Rheolwr Strategaeth a Pholisi’r Dyfodol HCC, John Richards, drosolwg o gynllun gweithredu strategol HCC, gan amlinellu ei dri maes blaenoriaeth allweddol. Ysgogodd hyn drafodaeth fywiog, gyda’r aelodau’n cyfrannu safbwyntiau craff a syniadau arloesol ar gyfeiriad y diwydiant cig coch yn y dyfodol.

Bu’r grŵp hefyd yn ymweld â phencadlys Wynnstay yn Llansantffraid, lle cawsant fewnwelediadau gwerthfawr i’r gadwyn gyflenwi amaethyddol ehangach. Roedd yr ymweliad yn cynnwys cyfle i glywed gan y Prif Swyddog Gweithredol, Alk Brand, a chyflwyniad gan faethegydd arbenigol Wynnstay ar rôl hanfodol diet wrth gynnal safonau uchel o iechyd a pherfformiad anifeiliaid.

Wrth fyfyrio ar lwyddiant y rhaglen, dywedodd John Richards: “Hoffem ddiolch i’r aelodau am fod yn rhan o’r rhaglen Cig-weithio dros y flwyddyn, ac edrychwn ymlaen at weld sut y bydd eu gyrfaoedd yn datblygu o fewn y sector cig coch dros y blynyddoedd i ddod.”

You may also like

Geneteg Defaid Cymru yn agor i geisiadau ar 1 Gorffennaf
Geneteg Defaid Cymru yn agor i geisiadau ar 1 Gorffennaf
Aelodau Cig-weithio yn myfyrio ar raglen addysgiadol
Aelodau Cig-weithio yn myfyrio ar raglen addysgiadol
Cadwch y dyddiadau: digwyddiadau ymgysylltu i ddod
Cadwch y dyddiadau: digwyddiadau ymgysylltu i ddod
Trafodaethau cadarnhaol gyda Gweinidog Cabinet newydd Llywodraeth Cymru
Trafodaethau cadarnhaol gyda Gweinidog Cabinet newydd Llywodraeth Cymru