Skip to content
Eat Welsh Lamb & Welsh Beef

Cafodd treftadaeth, cymeriad ac enw da unigryw Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru eu cydnabod gan y Comisiwn Ewropeaidd trwy ennill statws prin Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI).

Visit website
Porc Blasus

Mae Cymru’n enwog am gynhyrchu Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru o safon, ond ddylen ni ddim anghofio am ein porc.

Visit website
Hwb Cig Coch

Mae'r Hwb Cig Coch yn cefnogi’r rhai sy’n gweithio mewn iechyd ac addysg trwy ddarparu adnoddau gwybodaeth a dysgu manwl ynghylch cig coch a maeth, diet cytbwys, tarddiad a diogelwch bwyd, prynu, storio, paratoi a choginio cig coch.

Visit website
Eat Welsh Lamb & Welsh Beef

Cafodd treftadaeth, cymeriad ac enw da unigryw Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru eu cydnabod gan y Comisiwn Ewropeaidd trwy ennill statws prin Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI).

Visit website
Porc Blasus

Mae Cymru’n enwog am gynhyrchu Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru o safon, ond ddylen ni ddim anghofio am ein porc.

Visit website
Hwb Cig Coch

Mae'r Hwb Cig Coch yn cefnogi’r rhai sy’n gweithio mewn iechyd ac addysg trwy ddarparu adnoddau gwybodaeth a dysgu manwl ynghylch cig coch a maeth, diet cytbwys, tarddiad a diogelwch bwyd, prynu, storio, paratoi a choginio cig coch.

Visit website

Cyfarfod cyntaf Cig-weithio

By Nia

Mae ail griw cynllun Cig-weithio HCC wedi dod ynghyd ar gyfer eu sesiwn grŵp cyntaf a oedd yn edrych ar waith ymchwil a datblygu HCC a’r amgylchedd ffermio.   Cyfarfu’r grŵp yn Hendy-gwyn ar Daf i wrando ar gyflwyniad diddorol gan May Wheeler o’r Ymddiriedolaeth Bwyd Cynaliadwy ar y “Global Farm Metric” – elfen bwysig o … Continued

Rhannu’r ffeithiau am gig coch ymysg bydwragedd

By Nia

Fel rhan o’i gylchgwaith eang, mae HCC yn ymgysylltu gyda gweithwyr iechyd proffesiynol i rannu adnoddau ffeithiol am gig coch, sy’n seiliedig ar dystiolaeth.    Bu aelodau o’r tîm yn arddangos yng Nghynhadledd y Coleg Brenhinol Bydwragedd ym mis Chwefror i dynnu sylw at rôl bwysig cig coch yn ystod ac ar ôl beichiogrwydd. I bwysleisio’r … Continued

Darlun cymysg i fasnach cig eidion a defaid yn hanner cyntaf 2025

By Nia

Mae bwletin y farchnad diweddaraf HCC, a ryddhawyd wythnos yma, yn edrych ar ddata HMRC ar ffigyrau masnach ar gyfer cynnyrch cig coch ffres ac wedi’i rewi yn ystod chwe mis cyntaf 2025. Prif bwyntiau: Yn hanner cyntaf 2025, gwelwyd gostyngiad o 4% mewn cynhyrchiant cig eidion o’i gymharu â’r un cyfnod yn 2024. Yn … Continued

Cefnogi gwerthiant Cig Oen Cymru yn ne yr Eidal

By Nia

Dinas Naples yn yr Eidal oedd cyrchfan ddiweddaraf Cig Oen Cymru. Fe ymddangosodd mewn digwyddad preifat a drefnwyd gan un o brif archfarchnadoedd canolbarth a de y wlad. Mae gan y manwerthwr tua 500 o siopau ac fe gynhaliwyd yr arddangosfa o gynnyrch amrywiol ar gyfer eu rheolwyr, yn cynnwys y rhai sy’n gyfrifol am … Continued

Gwneud bywyd yn haws gyda chyfrif EIDCymru

By Nia

Bydd staff EIDCymru ar daith dros yr wythnosau nesaf, yn hyrwyddo’r cyfleusterau defnyddiol sydd ar gael i geidwaid defaid, geifr a cheirw ar eu gwefan cofnodi symudiadau. Bydd y tîm yn ymweld â marchnadoedd ac arwerthiannau hyrddod a defaid magu dros Gymru – o Ruthun i Gaerfyrddin – yn annog ffermwyr i gofrestru ar gyfer … Continued

HCC yn cefnogi datblygiad tri ar ddeg math o laswellt a meillion

By Nia

Mae dwy feillionen wen, un feillionen goch, dau rygwellt Eidalaidd ac wyth rhygwellt lluosflwydd wedi’u hychwanegu at y Rhestr Glaswellt a Meillion Cymeradwy i Gymru a Lloegr 2025/26 (RGCL). Mae cynnwys y tri ar ddeg math o laswellt a meillion yn y llawlyfr blynyddol, RGCL yn ychwanegu cryfder at yr opsiynau sydd ar gael i … Continued