Skip to content
Eat Welsh Lamb & Welsh Beef

Cafodd treftadaeth, cymeriad ac enw da unigryw Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru eu cydnabod gan y Comisiwn Ewropeaidd trwy ennill statws prin Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI).

Visit website
Porc Blasus

Mae Cymru’n enwog am gynhyrchu Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru o safon, ond ddylen ni ddim anghofio am ein porc.

Visit website
Hwb Cig Coch

Mae'r Hwb Cig Coch yn cefnogi’r rhai sy’n gweithio mewn iechyd ac addysg trwy ddarparu adnoddau gwybodaeth a dysgu manwl ynghylch cig coch a maeth, diet cytbwys, tarddiad a diogelwch bwyd, prynu, storio, paratoi a choginio cig coch.

Visit website
Eat Welsh Lamb & Welsh Beef

Cafodd treftadaeth, cymeriad ac enw da unigryw Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru eu cydnabod gan y Comisiwn Ewropeaidd trwy ennill statws prin Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI).

Visit website
Porc Blasus

Mae Cymru’n enwog am gynhyrchu Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru o safon, ond ddylen ni ddim anghofio am ein porc.

Visit website
Hwb Cig Coch

Mae'r Hwb Cig Coch yn cefnogi’r rhai sy’n gweithio mewn iechyd ac addysg trwy ddarparu adnoddau gwybodaeth a dysgu manwl ynghylch cig coch a maeth, diet cytbwys, tarddiad a diogelwch bwyd, prynu, storio, paratoi a choginio cig coch.

Visit website

Criw Cig-weithio yn archwilio geneteg gwartheg bîff

By Siwan

Fel rhan o raglen Cig-weithio HCC, mae ei aelodau presennol wedi trin a thrafod amrywiaeth eang o bynciau perthnasol, o gynaliadwyedd a rheoli glaswelltir i eneteg defaid, gyda chyfleoedd i gwrdd ag arweinwyr o’r diwydiant ar hyd y ffordd. Roedd eu sesiwn ddiwethaf yn canolbwyntio ar gynhyrchu cig eidion a geneteg, gydag ymweliad â Fferm … Continued

Gostyngiad mewn lefelau lladd a chyflenwad

By Siwan

Mae Bwletin y Farchnad mis Ionawr yn edrych ar dueddiadau lladd a chynhyrchu gwartheg, defaid a moch yn y DU yn 2025, wedi i Defra gyhoeddi ffigyrau trwybwn yn ddiweddar. Pwyntiau allweddol: Gostyngodd trwybwn gwartheg ar y flwyddyn. Arweiniodd hyn at gynhyrchiad cig eidion domestig is – gostyngiad o 4% ar y flwyddyn, a 3% … Continued

Cywain y cynhaeaf: Cefnogi diwydiant prosesu bwyd Cymru

By Siwan

Mewn ymateb i gyhoeddi’r adroddiad, meddai llefarydd ar ran HCC: “Rydym ni’n croesawu’r gwaith gan bwyllgor y Senedd yn y maes yma a chyhoeddiad yr adroddiad, ‘Cywain y cynhaeaf: Cefnogi diwydiant prosesu bwyd Cymru.’ Yn benodol, croesawn yr argymhelliad sy’n edrych ar sut y gall Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid ehangach gefnogi lladd-dai a chynhyrchwyr bwyd … Continued

Gweithgaredd diweddar Porc o Gymru

By Siwan

Roedd 2025 yn flwyddyn gynhyrchiol o weithgaredd cyffrous i’r brand Porc Blasus, wedi’i gydlynu gan Hybu Cig Cymru (HCC) ar ran cynhyrchwyr porc o Gymru. Roedd y gweithgareddau marchnata yn canolbwyntio ar greu cynnwys ffres, o ansawdd uchel i arddangos y cynnyrch a chefnogi’r rhwydwaith o gynhyrchwyr ymroddgar. Yn ystod misoedd yr haf, datblygwyd 12 … Continued

Cyfleoedd newydd i ymuno â Bwrdd HCC

By Siwan

Mae Llywodraeth Cymru am benodi pedwar Cyfarwyddwr Anweithredol newydd i ymuno â bwrdd Hybu Cig Cymru (HCC). Wedi’i gadeirio gan Catherine Smith, mae’r bwrdd yn cynnwys unigolion ag ystod o brofiadau o bob rhan o’r gadwyn gyflenwi cig coch. Mae gan yr aelodau sgiliau cryf ar draws y sector a phrofiad mewn llywodraethiant, amaethyddiaeth, cynaliadwyedd … Continued

Ffeithiau ar flaen eich bysedd mewn llyfryn llawn data

By Siwan

Mae beibl blynyddol o ddata amaethyddol wedi’i gyhoeddi gan Hybu Cig Cymru (HCC). O glawr i glawr, mae’r Llyfr Bach o Ffeithiau am Gig – Casgliad o Ystadegau’r Diwydiant Cig Coch a Da Byw yng Nghymru 2025, yn llawn ffigyrau cyffredinol am y diwydiant, gydag adran ar y sector gwartheg, defaid a moch. Mae’n adrodd … Continued

Aelodau Cig-weithio yn creu cysylltiadau gydag arweinwyr yn y diwydiant

By Siwan

Cynhaliwyd ail sesiwn grŵp Cig-weithio HCC yn Aberystwyth yn ddiweddar. Treuliwyd y bore yn cyfarfod arweinwyr yn y diwydiant a’r prynhawn yn canolbwyntio ar eneteg defaid. Mae cynnig cyfle i’r aelodau greu cysylltiadau a datblygu eu dealltwriaeth o wahanol elfennau o’r gadwyn gyflenwi yn rhai o brif flaenoriaethau’r rhaglen, ac fe gynlluniwyd yr ail sesiwn … Continued

Tueddiadau’r sector cig eidion yn 2025

By Siwan

Mae Bwletin y Farchnad mis Tachwedd yn archwilio datblygiadau allforio o fewn sector cig eidion y DU, pwysau cyflenwi byd-eang, a’r cyferbyniad parhaus rhwng galw rhyngwladol cryf a defnydd domestig mwy cynnil. Pwyntiau allweddol: Roedd allforion cig eidion ffres ac wedi rhewi o’r DU (Ionawr i fis Medi) 2% yn is na’r un cyfnod yn … Continued