Skip to content
Eat Welsh Lamb & Welsh Beef

Cafodd treftadaeth, cymeriad ac enw da unigryw Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru eu cydnabod gan y Comisiwn Ewropeaidd trwy ennill statws prin Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI).

Visit website
Porc Blasus

Mae Cymru’n enwog am gynhyrchu Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru o safon, ond ddylen ni ddim anghofio am ein porc.

Visit website
Hwb Cig Coch

Mae'r Hwb Cig Coch yn cefnogi’r rhai sy’n gweithio mewn iechyd ac addysg trwy ddarparu adnoddau gwybodaeth a dysgu manwl ynghylch cig coch a maeth, diet cytbwys, tarddiad a diogelwch bwyd, prynu, storio, paratoi a choginio cig coch.

Visit website
Eat Welsh Lamb & Welsh Beef

Cafodd treftadaeth, cymeriad ac enw da unigryw Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru eu cydnabod gan y Comisiwn Ewropeaidd trwy ennill statws prin Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI).

Visit website
Porc Blasus

Mae Cymru’n enwog am gynhyrchu Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru o safon, ond ddylen ni ddim anghofio am ein porc.

Visit website
Hwb Cig Coch

Mae'r Hwb Cig Coch yn cefnogi’r rhai sy’n gweithio mewn iechyd ac addysg trwy ddarparu adnoddau gwybodaeth a dysgu manwl ynghylch cig coch a maeth, diet cytbwys, tarddiad a diogelwch bwyd, prynu, storio, paratoi a choginio cig coch.

Visit website

Cydnabod Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru â statws GI yn Siapan

By Nia

Cafodd Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru eu cydnabod yn swyddogol â statws Dynodiad Daearyddol (GI) yn Siapan.  Mae’r statws gwarchodedig hwn yn golygu bod hawl allforio’r cynhyrchion premiwm i Siapan gyda sicrwydd ychwanegol eu bod wedi’u diogelu rhag cynhyrchion sy’n eu hefelychu. Mae’r cyhoeddiad gan yr Adran Fusnes a Masnach, a ddisgrifiwyd yn … Continued

Gweithgor newydd gan HCC i fynd i’r afael â chynaliadwyedd

By Nia

Bu grŵp o arbenigwyr o’r diwydiant yn cyfarfod am y tro cyntaf yn Aberystwyth yr wythnos hon ar ôl cael eu penodi’n aelodau o weithgor newydd, sef y Gweithgor Arloesi ac Ymchwil Cynaliadwy. Cafodd deuddeg unigolyn eu dewis, gyda’r nod o gefnogi ac arwain Hybu Cig Cymru (HCC) ym meysydd arloesi, ymchwil a datblygu mewn … Continued

Ymgyrchoedd HCC yn sicrhau bod Cig Oen Cymru ar fwydlenni Dydd Gŵyl Dewi

By Nia

Bydd ciniawyr yng Nghymru yn gallu dathlu Dydd Gŵyl Dewi drwy fwyta Cig Oen Cymru lleol, wedi’i gynhyrchu’n gynaliadwy, mewn tafarndai gastro, diolch i ymdrech farchnata arbennig gan Hybu Cig Cymru (HCC). Cafwyd dathliadau ar y cyntaf o Fawrth i  anrhydeddu Dewi Sant oddi ar y ddeuddegfed ganrif, pan  ddaeth yn nawddsant Cymru. Gan ystyried … Continued

Disgwyl i incwm ffermydd ostwng oherwydd chwyddiant

By Nia

Mae disgwyl bod incwm cyfartalog ffermydd da byw yng Nghymru wedi gostwng mwy na 30 y cant yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf, a chymaint â 37 y cant mewn ardaloedd llai ffafriol. Dyna sy’n cael ei ragweld gan Lywodraeth Cymru yn Rhagolwg o incwm ffermydd yng Nghmru, sef golwg blynyddol ar yr hyn sy’n debygol … Continued

Cig Oen Cymru ar ei ffordd i sioe fasnach fwyaf Asia

By Nia

Mae Cig Oen Cymru ar ei ffordd i sioe fasnach fwyaf Asia, FoodEx, diolch i Hybu Cig Cymru (HCC). Bydd y digwyddiad, a gynhelir o ddydd Mawrth 5 Mawrth tan ddydd Gwener 8 Mawrth yn Tokyo Big Sight, yn denu dros 2,500 o gwmnïau bwyd a diod blaenllaw o fwy na 60 o wledydd a … Continued

Cig Oen Cymru’n serennu mewn digwyddiad arbennig yn Dubai

By Nia

Cafodd Cig Oen Cymru PGI ran bwysig mewn digwyddiad arbennig yn y Llysgenhadaeth Brydeinig yn Dubai yr wythnos hon, gan atgyfnerthu ei statws fel y dewis premiwm a chynaliadwy ar gyfer cig coch. Wedi’i drefnu gan Hybu Cig Cymru (HCC), teitl y digwyddiad oedd ‘Dathliad o Gig Oen Cymru’ a gwahoddwyd pwysigion yn cynnwys prynwyr … Continued

HCC yn dod â defnyddwyr yn nes at Borc gydag ymgyrch newydd

By Nia

Bydd ymgyrch newydd sy’n ceisio dod â defnyddwyr yn nes at Borc o Gymru yn cael ei lansio gan Hybu Cig Cymru (HCC) y gwanwyn hwn. Amcan cyffredinol yr ymgyrch – Pa mor bell yw’ch fforc o’n porc? – yw codi ymwybyddiaeth o argaeledd, manteision a’r duedd i brynu Porc Blasus i gynulleidfa o ddefnyddwyr … Continued

HCC yn Dathlu â Chig Oen Cymru yn y Dwyrain Canol

By Nia

Mae’r corff sy’n hyrwyddo cig coch Cymru, Hybu Cig Cymru (HCC), yn mynd â Chig Oen Cymru PGI i farchnad broffidiol y Dwyrain Canol lle bydd yn arddangos mewn sioe fasnach flaenllaw ac yn cynnal dathliad arbennig yn llysgenhadaeth Prydain yn Dubai. Bydd allforwyr o Gymru yn ymuno â thîm masnach HCC i arddangos Cig … Continued