Skip to content
Eat Welsh Lamb & Welsh Beef

Cafodd treftadaeth, cymeriad ac enw da unigryw Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru eu cydnabod gan y Comisiwn Ewropeaidd trwy ennill statws prin Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI).

Visit website
Porc Blasus

Mae Cymru’n enwog am gynhyrchu Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru o safon, ond ddylen ni ddim anghofio am ein porc.

Visit website
Hwb Cig Coch

Mae'r Hwb Cig Coch yn cefnogi’r rhai sy’n gweithio mewn iechyd ac addysg trwy ddarparu adnoddau gwybodaeth a dysgu manwl ynghylch cig coch a maeth, diet cytbwys, tarddiad a diogelwch bwyd, prynu, storio, paratoi a choginio cig coch.

Share

Bydd seminar ar-y-cyd a drefnwyd gan Hybu Cig Cymru (HCC) a CFfI Cymru yn trafod dyfodol ffermio ar gyfer y genhedlaeth nesaf yn Sioe Frenhinol Cymru yn Llanelwedd.

Dan gadeiryddiaeth Hwylusydd Grŵp Arweinyddiaeth Sioe Frenhinol Cymru a Chynghorydd y Gadwyn Gyflenwi Amaeth, Alison Harvey, bydd y seminar yn clywed lleisiau o bob cwr o’r sector amaethyddol yng Nghymru.

Bydd y rhai a ganlyn yn aelodau o’r panel: Angharad Thomas, Cadeirydd Materion Gwledig CFfI Cymru; Dominic Hampson Smith, Is-Gadeirydd Materion Gwledig CFfI Cymru; Teleri Glyn Jones gohebydd gwleidyddol y BBC ac aelod o Bwyllgor Cenhedlaeth Nesaf Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru; Cain Owen, Trefnydd Cymdeithas Amaethyddol Môn ac aelod o Bwyllgor Cenhedlaeth Nesaf Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru a Rachael Madeley-Davies, Pennaeth Cynaliadwyedd a Pholisi’r Dyfodol yn HCC.

Mae’r seminar yn dechrau am 10am yn adeilad CFfI Cymru ddydd Iau 25 Gorffennaf yn ystod Sioe Frenhinol Cymru. Bydd lluniaeth ysgafn ar gael.

Cyn y digwyddiad, dywedodd Pennaeth Cynaliadwyedd a Pholisi’r Dyfodol yn HCC, Rachael Madeley-Davies: “Mae amaethyddiaeth Cymru yn mynd trwy gyfnod o newid o ran deddfwriaeth a pholisi ond hefyd o ran tueddiadau defnyddwyr a galw byd-eang. Bydd cynaliadwyedd amgylcheddol yn allweddol wrth symud ymlaen ond mae’n bwysig bod safbwyntiau a phrofiadau pobl ifanc yn cael eu rhannu a’u hystyried.  Rwy’n edrych ymlaen at gymryd rhan yn y seminar hwn a chlywed barn aelodau eraill y panel yn ogystal.”

Ychwanegodd Alison Harvey, sy’n cadeirio’r digwyddiad: “Mae croeso i bawb ymuno â’r seminar hwn lle byddwn yn trafod sut olwg sydd ar ddyfodol ffermio ar gyfer y genhedlaeth nesaf. Rydym yn edrych ymlaen at glywed amrywiaeth o safbwyntiau a byddwn yn annog unrhyw un sydd â diddordeb i fod yn bresennol.”

I gael rhagor o wybodaeth neu i gofrestru ar gyfer y digwyddiad, cysylltwch â HCC ar info@hybucig.cymru

You may also like

Cyhoeddi aelodau newydd Cig-weithio
Cyhoeddi aelodau newydd Cig-weithio
Ysgolor newydd HCC â’r nod o archwilio dulliau cynaliadwy ymarferol i ffermwyr Cymru
Ysgolor newydd HCC â’r nod o archwilio dulliau cynaliadwy ymarferol i ffermwyr Cymru
HCC yn Sioe Frenhinol Cymru
HCC yn Sioe Frenhinol Cymru
Cigoedd Oen ac Eidion Cymru yn Sioe Fwyd Ffansi’r Haf Efrog Newydd
Cigoedd Oen ac Eidion Cymru yn Sioe Fwyd Ffansi’r Haf Efrog Newydd