Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi penodiad dau gyfarwyddwr anweithredol newydd i ymuno â Bwrdd Hybu Cig Cymru (HCC), y corff ardoll statudol sy’n gyfrifol am hyrwyddo a datblygu’r sectorau cig oen, eidion a phorc.
Y ddau yw Paul Savage a Dewi Hughes.
Mae Paul Savage yn arweinydd profiadol mewn gweithgynhyrchu bwyd gyda chefndir cryf mewn llywodraethiant, arweinyddiaeth strategol, ac ymgysylltu gyda rhanddeiliaid dros sectorau bwyd, amaethyddiaeth, a nwyddau traul cyflym. Gweithiodd mewn swyddi uwch gydag Arla Foods, yn cynnwys gweithrediadau masnachol ac fel Cyfarwyddwr Amaethyddol, ble datblygodd arbenigedd cryf mewn rheolaeth o’r gadwyn gyflenwi, cynaliadwyedd, a strategaeth fasnachol.
Ar hyn o bryd, mae Paul yn Gadeirydd Hufenfa De Arfon, gan weithio’n agos gyda pherchnogion ffermydd ac yn ymwneud â heriau amaethyddiaeth yng Nghymru. Mae ei yrfa hefyd wedi cynnwys arwain ar gydweithio ar raddfa fawr o fewn y diwydiant, gan weithio dan gyfyngiadau rheoleiddio cymhleth, ac ymgysylltu gyda chyrff llywodraethol i ddylanwadu ar ddatblygiad polisi.
Daw Dewi Hughes o deulu ffermio ar Ynys Môn. Mae wedi treulio ei yrfa yn gweithio yn sector amaeth Cymru yn cynnwys cyflogaeth gyda MLC a HCC. Ar hyn o bryd mae’n Bennaeth Gwasanaethau Iechyd Anifeiliaid ym Mentera, ble mae’n arwain nifer o brosiectau iechyd anifeiliaid, yn cynnwys gwasanaethau milfeddygol ar draws gogledd Cymru.
Bu Dewi yn allweddol yn y broses o ddatblygu a rheoli ar y cyd y Rhaglen Arwain DGC, rhaglen arloesol sy’n cael ei harwain gan y diwydiant i hyrwyddo defnydd gwrthficrobaidd cyfrifol yng Nghymru, gan leihau’r angen am wrthfiotigau’n sylweddol.
Bydd Paul a Dewi yn ymuno â’r naw cyfarwyddwr anweithredol presennol ar Fwrdd HCC sy’n cael ei gadeirio gan Catherine Smith.
Meddai’r Dirprwy Brif Weinidog sydd â chyfrifoldeb dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies: “Estynnaf groeso cynnes i Paul Savage a Dewi Hughes i Fwrdd Hybu Cig Cymru. Bydd gwybodaeth ac arbenigedd y ddau yn amhrisiadwy i waith HCC sy’n gweithredu ar ran sector cig coch Cymru. Mae’n rhaid i’r Bwrdd fedru cefnogi a herio’r swyddogion gweithredol ar y meysydd allweddol yn cynnwys cynllunio strategol, llywodraethiant corfforaethol a marchnata, ac mae’r unigolion o fewn y Bwrdd yn gallu cyfathrebu ac ymgysylltu’n uniongyrchol ac effeithiol gyda thalwyr ardoll. Mae cefndir y ddau mewn effeithlonrwydd y gadwyn gyflenwi, cynaliadwyedd ac iechyd anifeiliaid yn cyd-fynd yn berffaith gyda’n blaenoriaethau i wella marchnata cynnyrch cig coch Cymru, gwella effeithlonrwydd ar hyd y gadwyn gyflenwi, a gyrru cynaliadwyedd o fewn y sector hanfodol yma.”
Meddai Cadeirydd Bwrdd HCC, Catherine Smith: “Edrychaf ymlaen at groesawu Paul a Dewi fel aelodau o Fwrdd HCC. Maen nhw’n cynnig profiad technegol a phrofiad helaeth o’r gadwyn gyflenwi a fydd yn cyfoethogi sgiliau’r Bwrdd yn ei gyfanrwydd.
“Mae’n gyfnod cyffrous i ymuno â Bwrdd HCC, wrth i ni weithio gyda’r Prif Weithredwr newydd José Peralta a’i dîm o staff ymroddedig ar ddogfen gweledigaeth newydd ar gyfer diwydiant cig coch Cymru. Rwy’n sicr y bydd y profiad helaeth o’r diwydiant sydd gan Paul a Dewi yn werthfawr iawn wrth i ni fynd i’r afael â chefnogi’r diwydiant i’r dyfodol.”