Skip to content
Eat Welsh Lamb & Welsh Beef

Cafodd treftadaeth, cymeriad ac enw da unigryw Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru eu cydnabod gan y Comisiwn Ewropeaidd trwy ennill statws prin Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI).

Visit website
Porc Blasus

Mae Cymru’n enwog am gynhyrchu Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru o safon, ond ddylen ni ddim anghofio am ein porc.

Visit website
Hwb Cig Coch

Mae'r Hwb Cig Coch yn cefnogi’r rhai sy’n gweithio mewn iechyd ac addysg trwy ddarparu adnoddau gwybodaeth a dysgu manwl ynghylch cig coch a maeth, diet cytbwys, tarddiad a diogelwch bwyd, prynu, storio, paratoi a choginio cig coch.

Share

Cafodd deg unigolyn o bob rhan o’r gadwyn gyflenwi cig coch eu henwi fel y rhai cyntaf i gymryd rhan yn y rhaglen newydd ac unigryw, Cig-weithio gan Hybu Cig Cymru (HCC).

Cafodd y rhaglen ei  lansio nôl ym mis Mai gan HCC, a’r prif amcanion yw dod ag unigolion angerddol a brwdfrydig ynghyd i ddatblygu eu gwybodaeth a’u profiad o gynhyrchu cig coch o’r fferm i’r fforc.

Datblygwyd y rhaglen ar gyfer unigolion rhwng 21-35 mlwydd oed a fyddai’n elwa o gael mentor penodol, y cyfle i weithio fel grŵp ar brosiect ymchwil, a chyfleoedd i wneud cysylltiadau newydd a meithrin perthnasau ar draws y sector.

Yr ymgeiswyr llwyddiannus a gyhoeddwyd heddiw (dydd Mawrth 23 Gorffennaf) yn Sioe Frenhinol Cymru yw:

  • Craig Holly, Pont-y-pŵl - swyddog hyfforddiant cigyddiaeth
  • Chloe Mckee, Talgarth - rheolwr amaethyddiaeth a chynaliadwyedd, ffermwr defaid
  • Dafydd Walters, Cross Hands – dadansoddwr busnes
  • Daniel Owen, Pen-y-bont Fawr - rheolwr datblygu cadwyn gyflenwi cig oen, ffermwr cig eidion a defaid
  • Emma Matthews, Y Bont-faen – prynwr da byw, ffermwr defaid a chig eidion
  • Gwion Parry, Pwllheli - ffermwr cig eidion a defaid, sganiwr uwchsain am drwch braster a brithder
  • Hywel Evans, Caernarfon - prif weithredwr ac ysgrifennydd cwmni arwerthu
  • Jane Phillips, Llanfair-ym-Muallt - ffermwr defaid a chynghorydd tir glas
  • Louise Lawton, Pontypridd – arbenigwr cig, cownter cigyddiaeth
  • Robert Powell, Abertawe - rheolwr gweithrediadau bwyd ffres, ffermwr cig eidion a defaid

Dywedodd Elizabeth Swancott, Uwch Swyddog Gwybodaeth am y Farchnad ac Ymchwil a Datblygu yn HCC: “Cawsom ein syfrdanu’n llwyr gan nifer ac ansawdd y ceisiadau a dderbyniwyd, a hoffem longyfarch y deg aelod a gafodd eu dewis ar gyfer y grŵp.

“Maen nhw’n dod ag ystod eang o arbenigedd a gwybodaeth o bob rhan o’r gadwyn gyflenwi cig coch gyda nhw ac rydyn ni’n edrych ymlaen at roi llwyfan iddyn nhw er mwyn rhannu eu profiadau â’i gilydd. Gobeithiwn y bydd hyn yn annog cydweithio agos rhwng y gwahanol ddolenni yn y gadwyn gyflenwi ac yn cynyddu dealltwriaeth o strwythur, heriau a chyfleoedd y diwydiant.”

Dywedodd Louise Lawton, aelod o’r grŵp: “Ar ôl tyfu i fyny ar fferm gig eidion a defaid ac yn gweithio bellach yn y diwydiant cigyddiaeth, rwy’n edrych ymlaen at gwrdd ag arweinwyr yn niwydiant cig Cymru, dysgu o’u profiadau, ac adeiladu fy rhwydweithiau fy hun o fewn y diwydiant. Bydd y wybodaeth sydd gan y rhaglen i'w chynnig yn amhrisiadwy. Bydd yn rhoi gwir ymdeimlad i mi o’r rhan rwy’n ei chwarae yn y diwydiant a sut y gallaf drosglwyddo hyn i’n cwsmeriaid.”

Dywedodd yr arwerthwr Hywel Evans: “Bydd y rhaglen yn rhoi cipolwg gwerthfawr i mi ar rannau o’r gadwyn gyflenwi nad wyf wedi’u harchwilio’n fanwl eto.  Bydd deall yr agweddau hyn yn caniatáu imi werthfawrogi’r cymhlethdodau sy’n bodoli o ran cynhyrchu, prosesu a dosbarthu cig coch.  Bydd y wybodaeth hon yn fy ngalluogi yn fy rôl bresennol i gyfrannu’n fwy effeithiol at drafodaethau a phrosesau gwneud penderfyniadau sy’n effeithio ar y gadwyn gyflenwi gyfan.

You may also like

HCC yn gwrando ar randdeiliaid i greu gweledigaeth i’r dyfodol
HCC yn gwrando ar randdeiliaid i greu gweledigaeth i’r dyfodol
Cryfhau perthynas â’r Eidalwyr wrth i’r Brenin Siarl fwynhau Cig Oen Cymru PGI yn yr Eidal
Cryfhau perthynas â’r Eidalwyr wrth i’r Brenin Siarl fwynhau Cig Oen Cymru PGI yn yr Eidal
Prinder cyflenwad yn golygu’r prisiau cig eidion gorau erioed
Prinder cyflenwad yn golygu’r prisiau cig eidion gorau erioed
Clwb Swper Cynaliadwy ar gyfer Cig Eidion Cymru
Clwb Swper Cynaliadwy ar gyfer Cig Eidion Cymru