Skip to content
Eat Welsh Lamb & Welsh Beef

Cafodd treftadaeth, cymeriad ac enw da unigryw Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru eu cydnabod gan y Comisiwn Ewropeaidd trwy ennill statws prin Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI).

Visit website
Porc Blasus

Mae Cymru’n enwog am gynhyrchu Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru o safon, ond ddylen ni ddim anghofio am ein porc.

Visit website
Hwb Cig Coch

Mae'r Hwb Cig Coch yn cefnogi’r rhai sy’n gweithio mewn iechyd ac addysg trwy ddarparu adnoddau gwybodaeth a dysgu manwl ynghylch cig coch a maeth, diet cytbwys, tarddiad a diogelwch bwyd, prynu, storio, paratoi a choginio cig coch.

Share

Gwahoddir milfeddygon a ffermwyr defaid o bob cwr o Gymru i ymuno mewn gweminar addysgiadol ar sut i reoli defaid tenau a phryd i ymchwilio a thrin clefydau rhewfryn mewn diadelloedd.

Fe gynhelir y weminar - sy’n dwyn y teitl ‘Mynd i wraidd y broblem - rhesymau am ddefaid tenau mewn diadelloedd’ – ar nos Lun 17 Chwefror. Bydd y milfeddyg a’r ymgynghorydd defaid Kate Hovers yn egluro sut y gall ffermwyr defaid yng Nghymru elwa o ganfod y cyflyrau’n fuan.

Mae sawl ffactor sy’n gallu cyfrannu at ddefaid tenau sy’n perfformio’n sâl, a bydd darganfod gwraidd y broblem - sy’n gallu bod mor syml â bwydo annigonol, neu’n fwy difrifol fel clefyd rhewfryn drwg - yn helpu’r busnes.

Mae clefydau rhewfryn yn derm i ddisgrifio clefydau sy’n aml yn datblygu’n araf. Fel y mae’r enw’r awgrymu, gall difrifoldeb y clefyd fod yn waeth na’r disgwyl gyda mwy o anifeiliaid yn dioddef na’r nifer sy’n dangos arwyddion. Maent yn cynnwys Caseous Lymphasenitis (CLA), clefyd Ovine Johne’s (OJD) a Maedi Visna (MV).

Lowri Thomas, Uwch Swyddog Cynhyrchwyr a Phrosesu yn Hybu Cig Cymru (HCC) fydd yn cadeirio’r digwyddiad. Meddai: “Mae clefydau rhewfryn yn aml heb eu darganfod mewn diadelloedd ond gallant fod yn gyfrifol am berfformiad gwael drwy golli pwysau cronig, ffrwythlondeb isel a chyfraddau twf is. Mae’n bosib mai un o nifer yw’r ddafad sy’n dangos arwyddion. Bydd gan ddiadelloedd sydd wedi’u heffeithio lefel cynhyrchu is, a gaiff effaith niweidiol ar broffidioldeb y busnes.

“Rydym ni’n edrych ymlaen at sesiwn ddiddorol a defnyddiol, a fydd yn cynnwys cyngor arbenigol ac ymarferol gan Kate Hovers. Rydym hefyd yn falch i weithio gyda Chanolfan Milfeddygaeth Cymru (WVSC) a Chymdeithas Ddefaid Genedlaethol Cymru (NSA) i dynnu sylw at fanteision offer profi newydd sbon o’r enw Enferplex.”

Cynigir y prawf gwrthgorff Enferplex gan y WVSC a’i gefnogi gan NSA Cymru.

Dylai unrhyw un a hoffai ymuno â’r weminar ddefnyddio’r ddolen ganlynol i gofrestru: https://us02web.zoom.us/webinar/register/WN_8QGc2qxGQBKxJCtd2gOLpA 

You may also like

Ardoll cig coch Cymru i gynyddu yn unol â chwyddiant
Ardoll cig coch Cymru i gynyddu yn unol â chwyddiant
Lleisiau ffermwyr go iawn yn parhau i serennu
Lleisiau ffermwyr go iawn yn parhau i serennu
Y Dwyrain yn cwrdd â’r Gorllewin wrth hyrwyddo Cig Oen Cymru yn Tokyo
Y Dwyrain yn cwrdd â’r Gorllewin wrth hyrwyddo Cig Oen Cymru yn Tokyo
Ystadegau blynyddol yn dangos y prif newidiadau o ran masnach
Ystadegau blynyddol yn dangos y prif newidiadau o ran masnach