Skip to content
Eat Welsh Lamb & Welsh Beef

Cafodd treftadaeth, cymeriad ac enw da unigryw Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru eu cydnabod gan y Comisiwn Ewropeaidd trwy ennill statws prin Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI).

Visit website
Porc Blasus

Mae Cymru’n enwog am gynhyrchu Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru o safon, ond ddylen ni ddim anghofio am ein porc.

Visit website
Hwb Cig Coch

Mae'r Hwb Cig Coch yn cefnogi’r rhai sy’n gweithio mewn iechyd ac addysg trwy ddarparu adnoddau gwybodaeth a dysgu manwl ynghylch cig coch a maeth, diet cytbwys, tarddiad a diogelwch bwyd, prynu, storio, paratoi a choginio cig coch.

Share

Bydd ymgyrch newydd sy’n ceisio dod â defnyddwyr yn nes at Borc o Gymru yn cael ei lansio gan Hybu Cig Cymru (HCC) y gwanwyn hwn.

Amcan cyffredinol yr ymgyrch - Pa mor bell yw'ch fforc o'n porc? - yw codi ymwybyddiaeth o argaeledd, manteision a’r duedd i brynu Porc Blasus i gynulleidfa o ddefnyddwyr yng Nghymru. Mae’n dilyn yr ymgyrch hynod lwyddiannus yn yr haf  - Cyflwynwch eich Selsig Gorau – a gafodd ei hanelu at gynhyrchwyr porc a chigyddion sy’n defnyddio porc o Gymru.

Dywedodd Swyddog Gweithredol Ymgyrchoedd HCC, Philippa Gill: “Mae’r ymgyrch newydd hon yn annog defnyddwyr i gefnogi ffermwyr lleol a mwynhau’r gorau o ran blas ac amrywiaeth cynhyrchion porc. Bydd yn helpu i arddangos ffyrdd newydd o goginio a mwynhau porc ac i ddysgu mwy am y diwydiant.”

Mae HCC wrthi’n helpu pobl i ddod o hyd i’w porc yn lleol, lle bynnag y maen nhw’n byw yng Nghymru.

“Rydym yn helpu defnyddwyr i brynu oddi wrth y cynhyrchwyr anhygoel yng Nghymru sy’n angerddol am eu crefft a’u hanifeiliaid. P’un a ydych yn chwilio am doriadau ffres, selsig, bacwn neu ham, byddwch yn gallu cael hyd i gyflenwr lleol drwy ddefnyddio ein map rhyngweithiol o gynhyrchwyr,” ychwanegodd Philippa Gill.

O drefi arfordirol Sir Benfro i fynyddoedd Gwynedd, ac o ddyffrynnoedd bras Sir Ddinbych i brydferthwch creigiog Ynys Môn, mae digonedd o Borc Blasus ar gael ar ledled Cymru.

“Trwy brynu porc lleol, rydych chi nid yn unig yn cefnogi’r economi a’r amgylchedd lleol, ond rydych chi hefyd gofalu am eich iechyd a’ch lles eich hun.  Mae porc yn gig amlbwrpas a maethlon sy'n llawn protein, haearn, sinc a fitaminau B, a gallwch ei fwynhau mewn sawl ffordd –  o’i rostio i’w dro-ffrio ac o bastai i salad, fel rhan o ddiet cytbwys iach,” ychwanegodd.

You may also like

Prinder cyflenwad yn golygu’r prisiau cig eidion gorau erioed
Prinder cyflenwad yn golygu’r prisiau cig eidion gorau erioed
Clwb Swper Cynaliadwy ar gyfer Cig Eidion Cymru
Clwb Swper Cynaliadwy ar gyfer Cig Eidion Cymru
Neges ‘Naturiol a Lleol’ yn parhau’n berthnasol ar gyfer Cig Eidion Cymru
Neges ‘Naturiol a Lleol’ yn parhau’n berthnasol ar gyfer Cig Eidion Cymru
Angen ffermydd i gasglu data am ŵyn masnachol ar gyfer prosiect geneteg
Angen ffermydd i gasglu data am ŵyn masnachol ar gyfer prosiect geneteg