Skip to content
Eat Welsh Lamb & Welsh Beef

Cafodd treftadaeth, cymeriad ac enw da unigryw Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru eu cydnabod gan y Comisiwn Ewropeaidd trwy ennill statws prin Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI).

Visit website
Porc Blasus

Mae Cymru’n enwog am gynhyrchu Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru o safon, ond ddylen ni ddim anghofio am ein porc.

Visit website
Hwb Cig Coch

Mae'r Hwb Cig Coch yn cefnogi’r rhai sy’n gweithio mewn iechyd ac addysg trwy ddarparu adnoddau gwybodaeth a dysgu manwl ynghylch cig coch a maeth, diet cytbwys, tarddiad a diogelwch bwyd, prynu, storio, paratoi a choginio cig coch.

Share

Mae Hybu Cig Cymru (HCC) yn gwahodd sefydliadau ac unigolion ledled y diwydiant cig coch yng Nghymru i gymryd rhan yn yr alwad hon am eu barn wrth asesu'r heriau a'r cyfleoedd i'r sector dros y blynyddoedd nesaf.  Bydd yr ymateb yn cefnogi datblygiad  Gweledigaeth ar gyfer y Diwydiant Cig Coch yng Nghymru, 2026-30.

Cafodd arolwg ymhlith ffermwyr ei gwblhau eisoes, yn ystod haf 2025 ; roedd yn ceisio barn y cynhyrchwyr sydd yn talu ardoll am waith HCC a'r heriau a'r cyfleoedd o fewn y sector.

Cyhoeddir Gweledigaeth 2030 erbyn gwanwyn 2026, yn dilyn cytundeb gan Fwrdd HCC a chymeradwyaeth gan Lywodraeth Cymru. Mae gweledigaeth gyfredol HCC a ddatblygwyd gyda'r diwydiant , Gweledigaeth Cig Coch i Gymru’,  yn rhedeg tan ddiwedd y tymor Senedd hwn.

Mae pwyntiau allweddol yr ymgysylltiad hwn yn ymwneud â themâu penodol a nodwyd yn ystod proses ymgysylltu â'r diwydiant ddechrau 2025, gan gynnwys:

  • Thema 1: Niferoedd y da byw
  • Thema 2: Terfynau prosesu
  • Thema 3: Masnach
  • Thema 4: Defnydd
  • Thema 5: Ymchwil amgylcheddol
  • Thema 6: Proffidioldeb y fferm
  • Thema 7:   Eiriolaeth ac amddiffyn y diwydiant.

Gall sefydliadau ac unigolion ymateb drwy e-bostio eu hymatebion i Vision2030@hybucig.cymru gyda 'Gweledigaeth y Diwydiant Cig Coch i Gymru, 2026-30' fel y pwnc, neu eu postio i: Hybu Cig Cymru (HCC), Ty Rheidol, Aberystwyth, SY23 3FF. Dylid derbyn ymatebion erbyn dydd Mawrth, 2 Medi 2025.

Mae rhagor o wybodaeth a'r rhestr lawn o gwestiynau  ar gael yma: https://meatpromotion.wales/en/about/corporate-information-2/vision-2030/

You may also like

HCC yn croesawu adroddiad ‘Cynhyrchu Buchod Sugno Eidion Cymreig’ NFU Cymru
HCC yn croesawu adroddiad ‘Cynhyrchu Buchod Sugno Eidion Cymreig’ NFU Cymru
EIDCymru yn cyrraedd carreg filltir fawr
EIDCymru yn cyrraedd carreg filltir fawr
Criw Cig-weithio yn archwilio geneteg gwartheg bîff
Criw Cig-weithio yn archwilio geneteg gwartheg bîff
Gostyngiad mewn lefelau lladd a chyflenwad
Gostyngiad mewn lefelau lladd a chyflenwad