Mae’r corff sy’n hyrwyddo cig coch Cymru, Hybu Cig Cymru (HCC), wedi bod yn rhannu ei adnoddau diweddaraf gydag athrawon ac addysgwyr yn y Sioe Addysg Genedlaethol a gynhaliwyd yn ddiweddar yn Llandudno.
Bu cynrychiolwyr o HCC yn ymgysylltu ag athrawon a gweithwyr proffesiynol yn y diwydiant i rannu rhai o’u hadnoddau bwyd a ffermio ar gyfer yr ystafell ddosbarth - fel eu llyfr ryseitiau Cegin Ni / Our Kitchen – ac i dynnu sylw at eu hyb addysg cig coch ddwyieithog: www.redmeathub.wales
Dywedodd Elwen Roberts, Swyddog Gweithredol HCC ar gyfer y Defnyddwyr, sy’n arwain gwaith iechyd ac addysgol HCC: “Mae ymgysylltu ag athrawon a gweithwyr proffesiynol ym myd addysg wedi bod yn nod bwysig i HCC er mwyn sicrhau bod gan athrawon adnoddau ffeithiol ar gyfer cig coch, sy’n seiliedig ar dystiolaeth.
“Mae bwyd a ffermio wedi’u plethu i’r cwricwlwm trwy amrywiaeth o bynciau ac rydym yn gweithio i sicrhau bod gan athrawon y wybodaeth gywir am ddiet ac iechyd, a ffermio yng Nghymru. Cawsom ymateb gwych yn y Sioe Addysg Genedlaethol ac roeddem wrth ein bodd yn rhannu ein hadnoddau am ddim gydag athrawon.”
I weld holl adnoddau dwyieithog rhad ac am ddim HCC ar gyfer athrawon, ewch i wefan HCC: www.redmeathub.wales





