Bydd dathliad o Gig Oen Cymru PGI yn cael ei gynnal yng nghanolbwynt marchnad y dwyrain canol wrth i’r corff cig coch, Hybu Cig Cymru (HCC) arddangos yn ffair fasnach Gulfood a chynnal digwyddiad arbennig yn y Llysgenhadaeth Brydeinig yn Dubai.
Mae tim masnach HCC yn ymuno ag is-adran fwyd Llywodraeth Cymru i arddangos ochr yn ochr â chynnyrch eraill o Gymru rhwng 17-21 Chwefror. Bydd allforwyr cig coch allweddol hefyd yn mynychu’r ffair fasnach bwysig yng Nghnolfan Fasnach y Byd yn Dubai.
Yn ychwanegol i’r ffair fasnach, gweinir Cig Oen Cymru mewn digwyddiad arbennig, a gynhelir drwy garedigrwydd y Prif Gwnsler i’w Fawrhydi i Dubai ac Emiradau’r Gogledd, sef Sarah Mooney. Mae cynrychiolwyr o’r sector gwasanaeth bwyd wedi’u gwahodd i’r cinio cyfyngedig gyda bwydlen wedi’i dylunio gan y Prif Gogydd Russell Impiazzi i arddangos blas ac amlbwrpasedd arbennig Cig Oen Cymru.
Fe ystyrir y dwyrain canol yn gyrchfan bwysig ar gyfer Cig Oen Cymru gan ei fod yn cynnig marchnad ar gyfer toriadau premiwm i gwsmeriaid ym mhen uchaf y farchnad, a hefyd yn helpu i gael cydbwysedd carcas wrth i doriadau eraill, rhatach gael eu hallforio i wledydd eraill. Mae cyfran Cig Oen Cymru o’r farchnad manwerthu yn cynyddu ac wedi ehangu i Saudi Arabia.
Meddai Arweinydd Datblygu’r Farchnad HCC, Jason Craig: “Mae Gulfood yn ddigwyddiad allweddol yng nghalendr HCC ac mae’n bwysig i ni fynychu gan fod prynwyr yn dod yno o bob cwr o’r byd ac mae’n cynnig cyfleoedd masnachu posib i Gig Oen Cymru. Mae’n gyfle gwerthfawr i ddatblygu enw da'r cynnyrch a chysylltu gyda chwsmeriaid newydd ar draws y rhanbarth.
“Rydym ni’n edrych ymlaen yn arw at y digwyddiad yn y Llysgenhadaeth a fydd yn codi ymwybyddiaeth o’r brand ac yn gyfle i gael sgyrsiau wyneb yn wyneb dros bryd o fwyd gyda phrynwyr dylanwadol o sector gwasanaeth bwyd yr Emiradau Arabaidd Unedig a Saudi Arabia. Wrth iddynt fwynhau bwyta Cig Oen Cymru, ein gobaith yw meithrin cysylltiadau newydd o fewn y gadwyn gyflenwi wrth adrodd y stori am ein dulliau cynhyrchu a’r nodweddion cynaliadwy unigryw.”
Bydd y fwydlen arbennig yn cynnwys croquette Cig Oen Cymru PGI gyda chaws Snowdonia Cheese, pys, mintys a garlleg du ac yna lwyn cig oen Cymru wedi’i rhostio gyda pherlysiau ac ysgwydd cig oen wedi’i thynnu a phastai nionod melys.
Cynhelir arddangosiadau coginio Cig Oen Cymru yn ystod y ffair fasnach, wedi’u harwain gan Swyddog Gweithredol Defnyddwyr HCC, Elwen Roberts. Mi fydd hefyd yn paratoi samplau blasus ar gyfer sesiynau blasu ecsgliwsif fel rhan o weithgarwch hyrwyddo Blas Cymru Llywodraeth Cymru, ac ar gyfer derbyniad Gŵyl Ddewi a gynhelir yn y Llysgenhadaeth.
Ychwanegodd Jason Craig: “Rydym ni’n edrych ymlaen at ffair fasnach brysur a digwyddiadau ymylol byrlymus a fydd yn cynnig cyfleoedd niferus i ddangos pa mor arbennig yw Cig Oen Cymru.”