Skip to content
Eat Welsh Lamb & Welsh Beef

Cafodd treftadaeth, cymeriad ac enw da unigryw Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru eu cydnabod gan y Comisiwn Ewropeaidd trwy ennill statws prin Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI).

Visit website
Porc Blasus

Mae Cymru’n enwog am gynhyrchu Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru o safon, ond ddylen ni ddim anghofio am ein porc.

Visit website
Hwb Cig Coch

Mae'r Hwb Cig Coch yn cefnogi’r rhai sy’n gweithio mewn iechyd ac addysg trwy ddarparu adnoddau gwybodaeth a dysgu manwl ynghylch cig coch a maeth, diet cytbwys, tarddiad a diogelwch bwyd, prynu, storio, paratoi a choginio cig coch.

Share

Bydd wyth o gynhyrchwyr defaid a chig eidion o Gymru yn cael eu dewis ar gyfer prosiect cynaliadwyedd arweiniol sydd â’r nod o asesu effaith amgylcheddol ffermwyr ar draws y DU.

Mae’r prosiect, o’r enw Prosiect Llinell Sylfaen yr Amgylchedd, yn fenter ar y cyd rhwng y cyrff ardoll cig coch Hybu Cig Cymru (HCC), AHDB a QMS. Bwriad y gwaith yw ailddiffinio sut y caiff ffermwyr eu hystyried am gynhyrchu bwyd a gwarchod yr amgylchedd, yn ogystal ag effaith amaethyddiaeth a’i botensial ar gyfer cynnydd amgylcheddol.

Mae HCC yn gobeithio cydweithio gydag wyth busnes ffermio cig eidion a defaid o Gymru ar y prosiect, yn seiliedig ar ffactorau’n ymwneud â lleoliad daearyddol, tirwedd, y math o bridd a systemau.

Bydd y cynhyrchwyr yn elwa o asesiadau megis stoc carbon, mapiau dŵr ffo, archwiliadau carbon a dadansoddi pridd ar eu ffermydd. Bydd adroddiadau’n cael eu cynhyrchu a’u rhannu gyda’r cynhyrchwyr.

Dr Eleri Thomas sy’n cydlynu’r prosiect ar ran HCC. Meddai: “Mae amaethyddiaeth yn cael ei gydnabod am gyfrannu at allyriadau. Ond, yn wahanol i ddiwydiannau eraill, mae gan ffermydd cig eidion a defaid Cymru gyfle unigryw i storio carbon tra’n cynhyrchu protein o ansawdd uchel sy’n werthfawr yn niet pobl.

“Dyma brosiect cyffrous i fod yn rhan ohono os ydych chi’n angerddol am gynaliadwyedd a’r diwydiant.”

Bydd y ffermydd sy’n rhan o’r prosiect yn darparu tystiolaeth i arddangos sut y gall ffermydd Cymru fod yn gynhyrchiol ac, ar yr un pryd, storio carbon a gwrthbwyso allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr o fewn eu systemau ffermio eu hunain.

Ychwanegodd Dr Thomas: “Bydd y data fferm pwerus yma yn help i ddiogelu’r sector i’r dyfodol, i greu data diweddar a pherthnasol yn hytrach na gorfod dibynnu ar ffigyrau hanesyddol cenedlaethol.

“Mae gan y prosiect y gallu i arddangos effeithiau amgylcheddol a manteision ehangach cynhyrchu cig coch o fewn systemau cynhyrchu yng Nghymru. Ar yr un pryd, bydd yn asesu ffyrdd y gall ffermydd leihau nwyon tŷ gwydr, adeiladu stociau carbon, gwella iechyd pridd a chefnogi bioamrywiaeth.

“Ar lefel unigol, bydd yn darparu gwybodaeth fanwl a data i ffermwyr am eu system – yn ogystal â chefnogaeth i’w ddadansoddi. Bydd hynny’n eu galluogi i gymryd camau cadarnhaol tuag at ddyfodol cynaliadwy a phroffidiol.

“Rydym ni’n croesawu unrhyw gynhyrchwyr cig eidion a defaid sydd yn awyddus i fachu am y cyfle yma i ymuno â ni yn HCC i arddangos pam mai’r ‘Ffordd Gymreig’ o gynhyrchu cig coch yw un o’r ffyrdd mwyaf cynaliadwy yn y byd.”

Mae ffurflen i ddatgan diddordeb, mwy o wybodaeth a chwestiynau cyffredin ar gael isod, a bydd angen llenwi’r ffurflen erbyn dydd Mawrth 28 Hydref. Os nad yw'r dogfennau isod yn agor, cysylltwch gyda ni: info@hybucig.cymru

DOGFENNAU PWYSIG:

Ffurflen Datgan Diddordeb

Cwestiynau cyffredin - Prosiect Llinell Sylfaen Amgylcheddol

You may also like

HCC yn cydweithio gydag S4C dros y Nadolig
HCC yn cydweithio gydag S4C dros y Nadolig
HCC yn Ffair Aeaf CAFC
HCC yn Ffair Aeaf CAFC
Stocrestr Flynyddol o Ddefaid a Geifr 2025
Stocrestr Flynyddol o Ddefaid a Geifr 2025
Ymateb cadarnhaol i Gig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru yn Anuga
Ymateb cadarnhaol i Gig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru yn Anuga