Skip to content
Eat Welsh Lamb & Welsh Beef

Cafodd treftadaeth, cymeriad ac enw da unigryw Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru eu cydnabod gan y Comisiwn Ewropeaidd trwy ennill statws prin Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI).

Visit website
Porc Blasus

Mae Cymru’n enwog am gynhyrchu Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru o safon, ond ddylen ni ddim anghofio am ein porc.

Visit website
Hwb Cig Coch

Mae'r Hwb Cig Coch yn cefnogi’r rhai sy’n gweithio mewn iechyd ac addysg trwy ddarparu adnoddau gwybodaeth a dysgu manwl ynghylch cig coch a maeth, diet cytbwys, tarddiad a diogelwch bwyd, prynu, storio, paratoi a choginio cig coch.

Visit website
Eat Welsh Lamb & Welsh Beef

Cafodd treftadaeth, cymeriad ac enw da unigryw Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru eu cydnabod gan y Comisiwn Ewropeaidd trwy ennill statws prin Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI).

Visit website
Porc Blasus

Mae Cymru’n enwog am gynhyrchu Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru o safon, ond ddylen ni ddim anghofio am ein porc.

Visit website
Hwb Cig Coch

Mae'r Hwb Cig Coch yn cefnogi’r rhai sy’n gweithio mewn iechyd ac addysg trwy ddarparu adnoddau gwybodaeth a dysgu manwl ynghylch cig coch a maeth, diet cytbwys, tarddiad a diogelwch bwyd, prynu, storio, paratoi a choginio cig coch.

Visit website
Share

Emily Jones o Fferm Garn-wen yng Ngorllewin Cymru yw'r bedwaredd genhedlaeth o'i theulu i ffermio eu tir ar ucheldiroedd Ceredigion. Un elfen o ffermio y mae hi'n ei mwynhau'n arbennig yw mynychu sioeau amaethyddol, gan arddangos ansawdd nodedig ei da byw i'r cyhoedd. Wrth wneud hynny, mae angen deall a dilyn y rheolau symud anifeiliaid.

Eithriad i’r rheol Gwaharddiad Symud Chwe Diwrnod (GS6D)

Penderfynodd Emily gofrestru Uned Gwarantîn (UG) gyda chymdeithas Cynhyrchwyr Cig Oen a Chig Eidion Cymru (WLBP). Mae hyn yn ei galluogi i arddangos mewn amrywiol sioeau heb orfod cydymffurfio â chyfyngiadau symud - a elwir yn GS6D - a allai fel arall effeithio ar reolaeth ddyddiol y fferm. Mae cyflwyno UG hefyd yn gwella bioddiogelwch, gan leihau'r risg o ledaenu clefydau.

Mae Unedau Cwarantîn yn golygu nad oes raid i geidwaid anifeiliaid lynu wrth drefniadau GS6D ar gyfer defaid, geifr a gwartheg. Nid yw symud anifeiliaid i Uned Gwarantîn yn golygu GS6D ar y prif ddaliad; caniateir symud anifeiliaid oddi ar y prif ddaliad wrth i anifeiliaid sy'n dod i mewn gydymffurfio â gofynion y GS6D mewn Uned Gwarantîn. Gall ceidwaid da byw ddewis rhwng defnyddio Unedau Cwarantîn cymeradwy i reoli symudiadau gwartheg, defaid a geifr, neu lynu wrth y GS6D ar eu daliad cyfan.

Dywedodd Emily: “Fe benderfynon ni fel teulu y byddai uned gwarantîn yn hynod fuddiol i ni; nid yn unig y mae'n ein helpu ni i fynd i gynifer o sioeau â phosibl, ond mae hefyd yn caniatáu i'r fferm a busnes y fferm gario ymlaen yn ôl eu harfer. Gallwn werthu stoc bridio, stôr ac ŵyn tew drwy gydol y flwyddyn.

“Rydym yn arddangos tri brîd sy'n cynnwys yn bennaf ddefaid Dorset Down Pedigri, a defaid Cheviot Gogledd Lloegr Pedigri – y mathau Mynydd a Pharc.  Rydym yn mynychu amrywiaeth o sioeau, o Sioe Frenhinol Cymru i wahanol sioeau sirol fel Aberystwyth, Aberteifi, San Clêr ac Abergwaun. Rydym hefyd yn gwneud yn siŵr ein bod yn mynychu sioeau lleol, fel Talybont, Pontrhydfendigaid a'n sioe fwyaf lleol ni yn Llangeitho.

“Unwaith y bydd yr anifeiliaid wedi’u dewis i’w harddangos, byddwn yn cofnodi eu rhifau tag ac yna’n eu symud i’r uned gwarantîn. Rydym yn defnyddio ein cyfrif EIDCymru ar-lein i roi gwybod am y symud oddi ar y fferm ac i mewn i’r uned fel bod yr anifeiliaid yn barod ar gyfer y sioeau cynnar sy’n dechrau ym mis Mai.”

Adrodd o fewn 24 awr – gan ddefnyddio cyfrif ar-lein EIDCymru

Bydd Emily yn rhoi gwybod am symudiadau defaid drwy ddefnyddio cyfrif ar-lein EIDCymru’r busnes. Nid yn unig y mae’r cyfrif hwnnw’n caniatáu i Emily gydymffurfio’n gyflym ac yn rhwydd â gofyniad adrodd UG, ond gall hefyd wirio a dilysu’r holl symudiadau a gofnodwyd, yn ogystal â chwblhau’r rhestr eiddo flynyddol ym mis Rhagfyr bob blwyddyn.

Dywedodd: “Rwyf wastad wedi ceisio defnyddio arferion gorau mewn perthynas â’r trwyddedau symud. Rwy’n ei chael hi’n haws o lawer i roi gwybod ar-lein am y symudiadau cyn gynted ag y byddwn ni’n cyrraedd adref o’r sioeau fel y gallaf wneud yn siŵr fod yr wybodaeth yn cael ei throsglwyddo’n llyfn drwy gydol y tymor arddangos.

“Gan fy mod yn defnyddio porth EIDCymru ers tro bellach, mae’r broses yn syml ac yn hawdd ei defnyddio. Mae'n cryfhau gwaith tîm da rhwng y ffyrdd traddodiadol - fel llenwi llyfr diadell y fferm, a ddefnyddir yn bennaf gan Dad, a dod â thechnoleg fodern i mewn trwy wefan EIDCymru, a ddefnyddir yn rheolaidd gennyf i.

“I ddechrau, roedd y broses yn frawychus i ni, oherwydd doedden ni ddim yn deall yr holl dechnoleg, ond erbyn hyn gallaf ddweud taw dyna un o’r penderfyniadau gorau a wnaethom erioed.  Fy hoff ran o wefan EIDCymru yw'r dewisiad i gofnodi symudiadau - mae'r nodwedd hon yn gwneud pethau mor hwylus, yn enwedig pan nad oes angen cofnodi rhifau tag dro ar ôl tro!

“Byddwn yn argymell uned gwarantîn i bob ffermwr a thyddynnwr oherwydd mae’n ddefnyddiol y tu hwnt ac yn caniatáu i arddangos a ffermio fynd law yn llaw.”

I gael rhagor o wybodaeth am unedau cwarantîn, ewch i: Quality Welsh Food Certification

I gofrestru ar gyfer cyfrif ar-lein EIDCymru.org, ewch i EIDCymru.org neu ffoniwch 01970 636959.


You may also like

HCC mewn partneriaeth gyda NSA Welsh Sheep 2027
HCC mewn partneriaeth gyda NSA Welsh Sheep 2027
O S4C i Netflix: Ymgyrch ‘Naturiol a Lleol’ yn ennill momentwm
O S4C i Netflix: Ymgyrch ‘Naturiol a Lleol’ yn ennill momentwm
Enillydd Ysgoloriaeth HCC, Ben James, yn adrodd yn ôl ar daith astudio ryngwladol
Enillydd Ysgoloriaeth HCC, Ben James, yn adrodd yn ôl ar daith astudio ryngwladol
Arolwg Fwriadau Ffermwyr 2026
Arolwg Fwriadau Ffermwyr 2026