Skip to content
Eat Welsh Lamb & Welsh Beef

Cafodd treftadaeth, cymeriad ac enw da unigryw Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru eu cydnabod gan y Comisiwn Ewropeaidd trwy ennill statws prin Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI).

Visit website
Porc Blasus

Mae Cymru’n enwog am gynhyrchu Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru o safon, ond ddylen ni ddim anghofio am ein porc.

Visit website
Hwb Cig Coch

Mae'r Hwb Cig Coch yn cefnogi’r rhai sy’n gweithio mewn iechyd ac addysg trwy ddarparu adnoddau gwybodaeth a dysgu manwl ynghylch cig coch a maeth, diet cytbwys, tarddiad a diogelwch bwyd, prynu, storio, paratoi a choginio cig coch.

Visit website
Eat Welsh Lamb & Welsh Beef

Cafodd treftadaeth, cymeriad ac enw da unigryw Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru eu cydnabod gan y Comisiwn Ewropeaidd trwy ennill statws prin Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI).

Visit website
Porc Blasus

Mae Cymru’n enwog am gynhyrchu Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru o safon, ond ddylen ni ddim anghofio am ein porc.

Visit website
Hwb Cig Coch

Mae'r Hwb Cig Coch yn cefnogi’r rhai sy’n gweithio mewn iechyd ac addysg trwy ddarparu adnoddau gwybodaeth a dysgu manwl ynghylch cig coch a maeth, diet cytbwys, tarddiad a diogelwch bwyd, prynu, storio, paratoi a choginio cig coch.

Visit website
Share

Cyrhaeddodd prisiau pwysau marw cyfartalog cig oen a chig eidion dethol yr uchaf erioed yn ystod 2024.

Cyrhaeddodd y cyfartaledd cig oen dethol uchafbwynt hanesyddol newydd wrth groesi'r marc £8/cilo yn y gwanwyn, a chyrhaeddodd cig eidion statws tebyg wrth basio'r marc £5/cilo ganol mis Medi. Mae'r ddau wedi gwneud cynnydd sylweddol yn ystod y flwyddyn.

Yn eu prif adolygiad o 2024, mae Bwletin y Farchnad Hybu Cig Cymru (HCC) hefyd yn myfyrio ar lefelau trwybwn ac yn cofnodi bod cynhyrchiant cig defaid wedi dirywio oherwydd trwybwn cig oen is o'i gymharu â chynhyrchiant cig eidion, wnaeth brofi twf cryf yn 2024.

"Bydd y gostyngiad yn nifer yr ŵyn yn debygol o gynhyrchu effeithiau a allai gyfyngu ar y cyflenwad yn 2025 a thu hwnt," meddai Glesni Phillips, Swyddog Gweithredol Gwybodaeth, Dadansoddi a Mewnwelediad Busnes HCC. "Yn y cyfamser, amcangyfrifir bod cyflenwad cig eidion yn y dyfodol yn tynhau a gallai arwain at brisiau giât y fferm cryfach."

Dywed Bwletin y Farchnad mis Ionawr fod prisiau pwysau marw cyfartalog cig oen dethol Prydain wedi dechrau'r flwyddyn ar £6.16/kg a chau'r flwyddyn ar gyfartaledd o £6.91/kg - cynnydd o 75c/kg o'r dechrau i'r diwedd. "Cyrhaeddodd y pris cyfartalog isafswm o £6.06/kg ym mis Ionawr ond yna cyrhaeddodd uchafbwynt o £8.93/kg ddiwedd mis Mai wrth i Ŵyn Tymor Newydd ddod i'r farchnad," meddai Glesni. "Y gwahaniaeth rhwng y pris isaf a'r pris uchaf oedd £2.88/kg, ac ni syrthiodd y cyfartaledd yn is na lefelau blwyddyn yn gynharach o gwbl yn ystod 2024.”

Prosesodd lladd-dai'r DU 12.85 miliwn o ddefaid ac ŵyn yn 2024, gostyngiad o 1.1% - 1.1 miliwn pen - flwyddyn ar ôl blwyddyn, a 9 y cant yn is na chyfartaledd 2019–2023 o 14.1 miliwn pen, yn ôl data gan Defra. "Mae hyn yn nodi'r lefel lladd defaid isaf ers blynyddoedd ac mae'n debygol mai dyma un o'r ffactorau y tu ôl i'r prisiau pwysau marw cryf a brofwyd yn ystod 2024." Disgynnodd cynhyrchiant cig defaid o 7 y cant i 266,000 tunnell o ganlyniad, tua 9 y cant yn is na'r cyfartaledd pum mlynedd.

Roedd cyfanswm trwybwn yr ŵyn mewn lladd-dai yn y DU yn ystod 2024 wedi gostwng 876,600% i 11.4miliwn pen. “Mae adroddiadau'r diwydiant yn awgrymu bod canran magu defaid yn uwch yn 2024, gan adlewyrchu colledion o dywydd garw a mwy o glefydau yn ystod wyna, fel firws Schmallenberg.”

"Fe wnaeth prisiau pwysau marw gwartheg dethol yn dda yn 2024 hefyd," parhaodd, "yn enwedig yn ail hanner y flwyddyn. Dechreuodd cyfartaledd bustych y flwyddyn ar £4.87/kg a chau'r flwyddyn ar gyfartaledd o £5.51/kg - cynnydd o 64c/kg o'r dechrau i'r diwedd. Dechreuodd pris pwysau marw cyfartalog gwartheg difa 2024 ar £3.14/kg a daeth i ben ar £3.70/kg - cynnydd o 56c/kg o'r dechrau i'r diwedd."

Adroddodd Defra bod 2.85 miliwn o wartheg wedi cael eu prosesu mewn lladd-dai yn y DU yn 2024 - cynnydd o 3 y cant - 83,800 pen - o'i gymharu â 2023, a 2 y cant yn uwch na chyfartaledd 2019-23 o 2.85 miliwn pen. Dyma'r trwybwn blynyddol uchaf yn ystod y blynyddoedd diwethaf, sy'n debyg i'r lefelau o 2.84 miliwn pen a welwyd diwethaf yn 2011. O ganlyniad, cyrhaeddodd cynhyrchiant cig eidion a chig llo 933,800 tunnell, i fyny 4 y cant flwyddyn ar ôl blwyddyn a 2 y cant yn uwch na'r cyfartaledd pum mlynedd. Roedd cyfartaleddau pwysau marw yn gryf yn 2024, er gwaethaf y lefel trwybwn uwch, sy'n awgrymu bod y galw am gig eidion yn gadarn yn ystod y flwyddyn.

“Gan edrych ymlaen at 2025; gall y cyflenwad posibl o wartheg ym Mhrydain dynhau rhywfaint, er y gallai'r prisiau pwysau marw cryf presennol annog mwy i'r farchnad. Y tu hwnt i 2025, mae'r dirywiad yn y categori gwartheg iau (fel y trafodwyd ym Mwletin y Farchnad mis Rhagfyr) yn awgrymu y gallai fod llai o anifeiliaid sy'n barod am y lladd-dai yn dod ar gael yn 2026 a thu hwnt,” asesodd Glesni.

Mae Bwletin y Farchnad mis Ionawr ar wefan HCC: https://meatpromotion.wales/cy/market-intelligence/bwletin-y-farchnad/


You may also like

Ardoll cig coch Cymru i gynyddu yn unol â chwyddiant
Ardoll cig coch Cymru i gynyddu yn unol â chwyddiant
Lleisiau ffermwyr go iawn yn parhau i serennu
Lleisiau ffermwyr go iawn yn parhau i serennu
Y Dwyrain yn cwrdd â’r Gorllewin wrth hyrwyddo Cig Oen Cymru yn Tokyo
Y Dwyrain yn cwrdd â’r Gorllewin wrth hyrwyddo Cig Oen Cymru yn Tokyo
Ystadegau blynyddol yn dangos y prif newidiadau o ran masnach
Ystadegau blynyddol yn dangos y prif newidiadau o ran masnach