Skip to content
Eat Welsh Lamb & Welsh Beef

Cafodd treftadaeth, cymeriad ac enw da unigryw Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru eu cydnabod gan y Comisiwn Ewropeaidd trwy ennill statws prin Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI).

Visit website
Porc Blasus

Mae Cymru’n enwog am gynhyrchu Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru o safon, ond ddylen ni ddim anghofio am ein porc.

Visit website
Hwb Cig Coch

Mae'r Hwb Cig Coch yn cefnogi’r rhai sy’n gweithio mewn iechyd ac addysg trwy ddarparu adnoddau gwybodaeth a dysgu manwl ynghylch cig coch a maeth, diet cytbwys, tarddiad a diogelwch bwyd, prynu, storio, paratoi a choginio cig coch.

Share

Mae Hybu Cig Cymru (HCC) yn annog ffermwyr i fod yn ymwybodol o gyngor diweddaraf Llywodraeth Cymru ynghylch y Tafod Glas a chyfyngu ar symud anifeiliaid.

O 20 Mehefin 2025 ymlaen, bydd unrhyw anifeiliaid sydd yn agored i'r clefyd (anifeiliaid cnoi cil neu gamelidau sydd yn cynnwys gwartheg, defaid, geifr, ceirw, lamas ac alpacas) sydd yn symud o Barth Cyfyngedig y Tafod Glas i Gymru i fyw ag angen trwydded symud benodol (ar gov.uk), ynghyd â phrawf cyn-symud dilys i’w dalu gan y sawl sy’n cadw’r anifeiliaid. Os yw anifail yn dangos arwyddion clinigol ar ddiwrnod y cludiant, ni all symud i Gymru.

Caiff firws y tafod glas ei drosglwyddo'n bennaf gan frathiadau gwybed ac mae'n cael effaith ar wartheg, geifr a defaid. Gall yr effeithiau ar anifeiliaid sy’n agored i niwed amrywio’n fawr. Nid yw rhai yn dangos unrhyw arwyddion  nac effeithiau clinigol ond gall achosi problemau cynhyrchiant mewn eraill, ac yn yr achosion mwyaf difrifol gall achosi marwolaeth.

Dywedodd Arweinydd Darpariaeth  HCC i Gynhyrchwyr a Phroseswyr, John Richards: “Byddem yn annog ffermwyr Cymru i ymgyfarwyddo â rheoliadau newydd Llywodraeth Cymru ynghylch y Tafod Glas a chyfyngiadau symud. Mae’n bosibl y bydd y cyfyngiadau hyn yn newid ac yn datblygu dros y misoedd nesaf, ac  felly byddem yn annog ffermwyr i gyfeirio at Lywodraeth Cymru am y cyngor a’r wybodaeth diweddaraf.”

Ychwanegodd John: “Mae’n dda gallu dweud wrth ddefnyddwyr nad yw’r clefyd yn cael effaith ar ddiogelwch bwyd a does dim bygythiad i iechyd pobl.”

Mae modd cael hyd i gyngor Llywodraeth Cymru ar y Tafod Glas yma:  https://www.llyw.cymru/polisir-tafod-glas-yng-nghymru

You may also like

HCC yn Sioe Frenhinol Cymru
HCC yn Sioe Frenhinol Cymru
Cigoedd Oen ac Eidion Cymru yn Sioe Fwyd Ffansi’r Haf Efrog Newydd
Cigoedd Oen ac Eidion Cymru yn Sioe Fwyd Ffansi’r Haf Efrog Newydd
HCC yn mynd â’r neges cig coch at addysgwyr Cymru
HCC yn mynd â’r neges cig coch at addysgwyr Cymru
Y cyngor diweddaraf ar y Tafod Glas
Y cyngor diweddaraf ar y Tafod Glas