Mae Bwletin y Farchnad mis Ebrill yn ystyried lefelau cynhyrchu ac effeithlonrwydd y fuches sugno yng Nghymru.
Pwyntiau allweddol:
- Mae effeithlonrwydd atgenhedlu yn y fuches sugno yn parhau i fod yn sylfaenol i broffidioldeb ac effeithlonrwydd amgylcheddol. Mae data diweddar yn dangos bod lle i wella er mwyn cyrraedd targedau’r diwydiant:
- y cyfwng lloia cyfartalog ar gyfer gwartheg eidion yng Nghymru oedd 425 diwrnod yn 2025 – cynnydd o bum diwrnod o’i gymharu â 2024, a’r cyfwng hiraf a gofnodwyd ers 2020 (BCMS);
- yr oed cyfartalog ar adeg y lloia cyntaf yn 2025 oedd 980 diwrnod (32.2 mis) – sy’n welliant nodedig o’i gymharu â lefelau cyn 2020 (BCMS), ond ychydig yn hŷn na’r flwyddyn flaenorol.
- Mae rheoli costau ac effeithlonrwydd ar y fferm yn sbardunau allweddol i broffidioldeb o fewn buchesi sugno Cymru ac mae’r data yn dangos bwlch sylweddol rhwng y perfformwyr uchaf ac isaf. Yn 2024/25, roedd cyfanswm y costau a gwmpesir gan elw’r farchnad yn 96.6% o’i gymharu â 150.1% ar gyfer y traean uchaf, a 68.3% ar gyfer y traean isaf (data FBS).
- Yn y tymor hir, bydd cynhyrchwyr sy’n gallu optimeiddio perfformiad y fuches yn gyson yn debygol o fod mewn sefyllfa well i aros yn wydn yn wyneb pwysau economaidd a pholisi parhaus.
Am ddadansoddiad llawn o’r data, cliciwch YMA i ddarllen Bwletin y Farchnad mis Ebrill. Mae’r bwletin hefyd yn cynnwys crynodeb o brisiau gwartheg, defaid a moch yn ystod y mis.




