Skip to content
Eat Welsh Lamb & Welsh Beef

Cafodd treftadaeth, cymeriad ac enw da unigryw Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru eu cydnabod gan y Comisiwn Ewropeaidd trwy ennill statws prin Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI).

Visit website
Porc Blasus

Mae Cymru’n enwog am gynhyrchu Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru o safon, ond ddylen ni ddim anghofio am ein porc.

Visit website
Hwb Cig Coch

Mae'r Hwb Cig Coch yn cefnogi’r rhai sy’n gweithio mewn iechyd ac addysg trwy ddarparu adnoddau gwybodaeth a dysgu manwl ynghylch cig coch a maeth, diet cytbwys, tarddiad a diogelwch bwyd, prynu, storio, paratoi a choginio cig coch.

Share

Mae ymchwil newydd, a gafodd ei ariannu’n rhannol gan Hybu Cig Cymru (HCC), wedi dangos bod targedu’r defnydd o driniaeth llyngyr parasitig ar gyfer llyngyr main mewn mamogiaid yn fwy effeithiol na thriniaeth gyffredinol.

Mae llyngyr main yn cael eu hystyried yn un o’r prif fygythiadau yn fyd-eang i gynhyrchiant a lles defaid, yn ogystal â chyfrannu at golledion economaidd sylweddol o fewn y diwydiant.

Cânt eu rheoli’n bennaf wrth gael eu trin â chyffuriau, ond mae ymwrthedd gwrthlyngyrol yn dod yn broblem gynyddol yn y sector.

Mae ymchwil PhD ym Mhrifysgol Aberystwyth gan Dr Eiry Williams wedi astudio sut mae ffermwyr Prydain ar hyn o bryd yn ymdrin â Nematodau Gastroberfeddol (a elwir hefyd yn llyngyr main) mewn mamogiaid ac wedi cynnal arolwg o 383 o ffermwyr defaid ledled Prydain i ganfod y dulliau cyfredol o reoli heintiadau, yn benodol mewn mamogiaid. Yna gwnaed astudiaethau i werthuso effaith defnyddio triniaethau dethol wedi'u targedu (TST), o’u cymharu â thriniaethau cyffredinol, yn benodol cyn troi mamogiaid at yr hwrdd ac adeg ŵyna.

Esboniodd Dr Williams: “Mae canfyddiadau’r ymchwil hwn yn awgrymu y gellir osgoi triniaeth gyffredinol ar gyfer pob mamog ar ffermydd defaid trwy ddefnyddio strategaeth TST yn seiliedig ar lawer o wahanol nodweddion neu gyfuniad o nodweddion, megis Sgôr Cyflwr Corff, pwysau, sgôr caglau, oedran a brid – gyda'r posibilrwydd o ddefnyddio ymddygiadau yn y dyfodol.

“Bydd defnyddio TST yn arwain at leihad yn y defnydd o foddion gwrthlyngyrol ynghyd â gostyngiad tebygol yn y datblygiad o ymwrthedd gwrthlyngyrol, a bydd hefyd yn golygu cynnal cynhyrchiant a gwella allbynnau economaidd yn yr hirdymor.

Dywedodd Dr Heather McCalman, Swyddog Gweithredol HCC  ar gyfer Ymchwil, Datblygu a Chynaliadwyedd: “Rydym yn falch ein bod wedi cefnogi’r PhD hwn mewn pwnc a fydd yn cynorthwyo iechyd anifeiliaid yn gyffredinol ac yn helpu ffermwyr i ddatblygu arferion rheoli a gwneud penderfyniadau newydd sy’n cynnig manteision hirdymor yn ariannol, amgylcheddol ac o ran lles anifeiliaid.

“Wrth i ni ymdrechu ar gyfer mwy o gynaliadwyedd yn y sector defaid, mae’r defnydd strategol o foddion gwrthlyngyrol yn chwarae rhan hanfodol o ran sicrhau eu heffeithiolrwydd hirhoedlog. Mae’r gwaith hwn yn rhoi gwell dealltwriaeth, drwy gyfrwng gwyddoniaeth gadarn, ynghylch pryd, ble a sut y dylid defnyddio offer rheoli – a bydd hyn o fudd i ffermwyr unigol a’r diwydiant yn gyffredinol.”

Cyhoeddwyd ymchwil Dr Williams yn ddiweddar gan y cyfnodolyn gwyddonol ‘Animal’ ac mae ar gael i’w weld yma

You may also like

Ystadegau blynyddol yn dangos y prif newidiadau o ran masnach
Ystadegau blynyddol yn dangos y prif newidiadau o ran masnach
Aelod o’r grŵp Cig-weithio yn derbyn teitl Prif Gigydd
Aelod o’r grŵp Cig-weithio yn derbyn teitl Prif Gigydd
Carreg filltir bwysig i RamCompare sydd eisiau hyrddod newydd
Carreg filltir bwysig i RamCompare sydd eisiau hyrddod newydd
Hyrwyddo Cig Oen Cymru yn y Dwyrain Canol
Hyrwyddo Cig Oen Cymru yn y Dwyrain Canol