Mae tîm HCC wedi bod ar hyd y lle yn ddiweddar, yn cynrychioli diwydiant cig coch Cymru mewn cynadleddau a digwyddiadau.
Mynychodd Dr Heather McCalman, Swyddog Gweithredol Ymchwil, Datblygu a Chynaliadwyedd HCC Gynhadledd y Gymdeithas Gwyddor Anifeiliaid Brydeinig (BSAS) yn Galway ble cyflwynodd wybodaeth am weithgarwch Ymchwil a Datblygu pwysig HCC. Mae hyn yn cynnwys bod yn rhan o sawl prosiect drwy’r DU yn cynnwys RamCompare, GrassCheckGB a ‘Bridio ar gyfer gwelliannau mewn defaid a gwartheg bîff.’ Nod y prosiectau yma yw cefnogi’r gadwyn gyflenwi cig coch i daclo heriau’r diwydiant drwy geisio gwella geneteg, rheolaeth glaswelltir a helpu cynhyrchwyr i ddatblygu strategaethau bridio i leihau nwyon tŷ gwydr.
Yn ystod mis Mai, aeth HCC a Cyswllt Ffermio ar daith o amgylch rhai o goleg amaethyddol Cymru i gysylltu gyda’r genhedlaeth nesaf o gynhyrchwyr. Rhoddwyd diweddariad ar y gwaith pwysig a wneir i dynnu sylw at ffermio yng Nghymru a hyrwyddo amaethyddiaeth gynaliadwy ar gyfer y dyfodol.
Roedd y sesiynau’n gyfle i egluro a thrafod gwaith marchnata HCC ac amlygu’r prosiectau ymchwil a datblygu cyfredol i gynulleidfa o ffermwyr y dyfodol. Amlinellodd Cyswllt Ffermio y gefnogaeth sydd ar gael drwyddyn nhw i gynhyrchwyr yng Nghymru. Roedd y daith yn cynnwys tri lleoliad sef Coleg Penybont (campws Pencoed), Coleg Sir Gâr (Gelliaur), a Grŵp NPTC (Fferm Fronlas), a gobeithiwn ymweld â cholegau gogledd Cymru yn y dyfodol agos.