Mae Hybu Cig Cymru (HCC) yn gwahodd sefydliadau ac unigolion ledled y diwydiant cig coch yng Nghymru i gymryd rhan yn yr alwad hon am eu barn wrth asesu'r heriau a'r cyfleoedd i'r sector dros y blynyddoedd nesaf. Bydd yr ymateb yn cefnogi datblygiad Gweledigaeth ar gyfer y Diwydiant Cig Coch yng Nghymru, 2026-30.
Cafodd arolwg ymhlith ffermwyr ei gwblhau eisoes, yn ystod haf 2025 ; roedd yn ceisio barn y cynhyrchwyr sydd yn talu ardoll am waith HCC a'r heriau a'r cyfleoedd o fewn y sector.
Cyhoeddir Gweledigaeth 2030 erbyn gwanwyn 2026, yn dilyn cytundeb gan Fwrdd HCC a chymeradwyaeth gan Lywodraeth Cymru. Mae gweledigaeth gyfredol HCC a ddatblygwyd gyda'r diwydiant , ‘Gweledigaeth Cig Coch i Gymru’, yn rhedeg tan ddiwedd y tymor Senedd hwn.
Mae pwyntiau allweddol yr ymgysylltiad hwn yn ymwneud â themâu penodol a nodwyd yn ystod proses ymgysylltu â'r diwydiant ddechrau 2025, gan gynnwys:
- Thema 1: Niferoedd y da byw
- Thema 2: Terfynau prosesu
- Thema 3: Masnach
- Thema 4: Defnydd
- Thema 5: Ymchwil amgylcheddol
- Thema 6: Proffidioldeb y fferm
- Thema 7: Eiriolaeth ac amddiffyn y diwydiant.
Gall sefydliadau ac unigolion ymateb drwy e-bostio eu hymatebion i Vision2030@hybucig.cymru gyda 'Gweledigaeth y Diwydiant Cig Coch i Gymru, 2026-30' fel y pwnc, neu eu postio i: Hybu Cig Cymru (HCC), Ty Rheidol, Aberystwyth, SY23 3FF. Dylid derbyn ymatebion erbyn dydd Mawrth, 2 Medi 2025.
Mae rhagor o wybodaeth a'r rhestr lawn o gwestiynau ar gael yma: https://meatpromotion.wales/en/about/corporate-information-2/vision-2030/





