Skip to content
Eat Welsh Lamb & Welsh Beef

Cafodd treftadaeth, cymeriad ac enw da unigryw Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru eu cydnabod gan y Comisiwn Ewropeaidd trwy ennill statws prin Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI).

Visit website
Porc Blasus

Mae Cymru’n enwog am gynhyrchu Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru o safon, ond ddylen ni ddim anghofio am ein porc.

Visit website
Hwb Cig Coch

Mae'r Hwb Cig Coch yn cefnogi’r rhai sy’n gweithio mewn iechyd ac addysg trwy ddarparu adnoddau gwybodaeth a dysgu manwl ynghylch cig coch a maeth, diet cytbwys, tarddiad a diogelwch bwyd, prynu, storio, paratoi a choginio cig coch.

Share

Dinas Naples yn yr Eidal oedd cyrchfan ddiweddaraf Cig Oen Cymru. Fe ymddangosodd mewn digwyddad preifat a drefnwyd gan un o brif archfarchnadoedd canolbarth a de y wlad.

Mae gan y manwerthwr tua 500 o siopau ac fe gynhaliwyd yr arddangosfa o gynnyrch amrywiol ar gyfer eu rheolwyr, yn cynnwys y rhai sy’n gyfrifol am gownteri ac adrannau cig, gyda chyfle i bob un ohonynt gael blasu.

Mynychodd Elwen Roberts, Swyddog Gweithredol y Defnyddwyr yn Hybu Cig Cymru (HCC) ar ran y cwmni. Meddai: “Mae’r archfarchnad wedi bod yn gwerthu Cig Oen Cymru ers sawl blwyddyn – ysgwydd cig oen yn bennaf – felly fe benderfynon ni roi’r cyfle iddynt flasu rhywbeth gwahanol. Fe wnes i baratoi brest Cig Oen Cymru gyda stwffin Eidalaidd yn cynnwys olifau a thomatos heulsych, cawsant eu coginio’n araf nes eu bod yn frau a’u sleisio i’w gweini.

“Daeth cannoedd o reolwyr y siopau i flasu, ac roedd yn gyfle gwych i gael siarad efo nhw’n uniongyrchol am rinweddau’r cig a’r dulliau cynhyrchu; roedd yn bositif iawn. Gyda’r nos, fe gynhaliwyd barbeciw gyda Chig Oen Cymru ar y fwydlen – cyfle gwych arall i arddangos amlbwrpasedd a blas Cig Oen Cymru.”

Mae’r Eidal yn farchnad sefydledig ar gyfer Cig Oen Cymru a’r bumed farchnad fwyaf ar draws y byd ar ôl Ffrainc, yr Almaen, Gwlad Belg a’r Iseldiroedd.

You may also like

HCC yn cydweithio gydag S4C dros y Nadolig
HCC yn cydweithio gydag S4C dros y Nadolig
HCC yn Ffair Aeaf CAFC
HCC yn Ffair Aeaf CAFC
Stocrestr Flynyddol o Ddefaid a Geifr 2025
Stocrestr Flynyddol o Ddefaid a Geifr 2025
Ymateb cadarnhaol i Gig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru yn Anuga
Ymateb cadarnhaol i Gig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru yn Anuga