Gweiniwyd Cig Oen Cymru i griw o Eidalwyr yn cynnwys manwerthwyr, dosbarthwyr, proseswyr a’r Conswl Cyffredinol Prydeinig, Kassim Ramji mewn digwyddiad preifat yn yr Eidal yr wythnos ddiwethaf, a hynny i gyd-fynd â sioe fasnach TuttoFood Milan.
Paratowyd y cig oen yn ofalus gan y cogydd Seren Michelin, Carlo Cracco yn ei fwyty ym Milan, sef Galleria Vittorio Emanuele II. Creodd ddau bryd, sef rigatoni gyda menyn mwg a ragu gwyn Cig Oen Cymru PGI, a Chig Oen Cymru PGI mewn crwst.
Meddai cynrychiolwyr HCC yn yr Eidal, Anna Garbagna a Sara Castelnuovo: “Bwriad y pryd bwyd oedd cyflwyno Cig Oen Cymru i nifer o unigolion blaenllaw'r sector cig oedd a’r potensial i fod yn gleientiaid newydd, gan ehangu’r farchnad Eidaleg i Gig Oen Cymru, ble mae’r cynnyrch eisoes yn cael ei werthfawrogi.”
Mynychodd Jason Craig, Rheolwr Datblygu’r Farchnad yn HCC y digwyddiad a thraddodi araith ar nodweddion Cig Oen Cymru a’r dulliau cynhyrchu. Meddai: “Yr Eidal yw ein marchnad fwyaf y tu hwnt i’r DU ar gyfer Cig Oen Cymru wedi’i frandio ac mae’n hanfodol bwysig i broseswyr cig coch Cymru.
“Cig Oen Cymru oedd un o’r cynhyrchion cyntaf o Gymru i dderbyn statws PGI a hynny dros ugain mlynedd yn ôl, ac fel cynnyrch DOP a PGI yr Eidal, mae’r dynodiad yma’n gwarchod ei darddiad, y traddodiad a’i gywirdeb. Mae’r Eidalwyr yn parchu symlrwydd ac ansawdd y cynnyrch, un sy’n eicon bwyd o’r iawn ryw ac wedi’i wreiddio’n ddwfn yng Nghymru.
“O ystyried y ffaith bod yr Eidal yn adnabyddus fel un o genhedloedd bwyd gorau’r byd, roeddwn yn hynod falch i brofi mwynhad y bobl o’m cwmpas yn ystod y pryd.”





