Skip to content
Eat Welsh Lamb & Welsh Beef

Cafodd treftadaeth, cymeriad ac enw da unigryw Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru eu cydnabod gan y Comisiwn Ewropeaidd trwy ennill statws prin Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI).

Visit website
Porc Blasus

Mae Cymru’n enwog am gynhyrchu Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru o safon, ond ddylen ni ddim anghofio am ein porc.

Visit website
Hwb Cig Coch

Mae'r Hwb Cig Coch yn cefnogi’r rhai sy’n gweithio mewn iechyd ac addysg trwy ddarparu adnoddau gwybodaeth a dysgu manwl ynghylch cig coch a maeth, diet cytbwys, tarddiad a diogelwch bwyd, prynu, storio, paratoi a choginio cig coch.

Share

Yn ddiweddar, bu Hybu Cig Cymru (HCC) yn arddangos yng Nghyngres Worldchefs a gynhaliwyd yng Nghasnewydd, gan hyrwyddo ansawdd a threftadaeth Cig Oen Cymru PGI, Cig Eidion Cymru PGI, a Phorc o Gymru i gynulleidfa fyd-eang o weithwyr coginio proffesiynol.

Gan weithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, ymgysylltodd HCC â chogyddion rhyngwladol, arweinwyr y diwydiant, ac arbenigwyr lletygarwch a oedd yn mynydchu’r digwyddiad dylanwadol, sy'n dod â chynrychiolwyr  sector coginio ynghyd o bob cwr o’r byd . Roedd y gyngres, a gynhaliwyd yng Nghymru am y tro cyntaf, yn lwyfan pwysig i dynnu sylw at gymwysterau unigryw cig coch Cymru o ran tarddiad a chynaliadwyedd.

Roedd gan ymwelwyr â'n stondin gyfle i flasu seigiau a oedd yn arddangos blas unigryw ac olrheinedd Cig Oen Cymru PGI a Chig Eidion Cymru PGI, yn ogystal â phorc o ansawdd uchel a gynhyrchir yng Nghymru. Pwysleisiodd y sesiynau blasu bwysigrwydd daearyddiaeth, arferion ffermio traddodiadol, a safonau cynhyrchu llym sy'n sail i'r statws Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI).

Denodd y Gyngres Worldchefs yng Nghasnewydd gynrychiolwyr o dros gant o wledydd, gan roi cyfle digynsail i gynhyrchwyr Cymru ddod i gysylltiad â’r bobl hynny sy’n gwneud penderfyniadau allweddol i’r diwydiant bwyd yn fyd-eang. I HCC, mae'r digwyddiad yn gam pwysig o ran cynyddu’r ymwybyddiaeth a’r galw  am gig Cymru a chryfhau ei bwysigrwydd yn y marchnadoedd coginio gorau.

You may also like

Gweini Cigoedd Oen ac Eidion Cymru PGI  I’r cogyddion gorau o gant o wledydd
Gweini Cigoedd Oen ac Eidion Cymru PGI I’r cogyddion gorau o gant o wledydd
Eidalwyr yn gwledda ar Gig Oen Cymru
Eidalwyr yn gwledda ar Gig Oen Cymru
Sioe Deithiol Llinell Sylfaen yr Amgylchedd: Cymru
Sioe Deithiol Llinell Sylfaen yr Amgylchedd: Cymru
Mewnforwyr o’r Almaen ar daith yng Nghymru
Mewnforwyr o’r Almaen ar daith yng Nghymru