Yn ddiweddar, bu Hybu Cig Cymru (HCC) yn arddangos yng Nghyngres Worldchefs a gynhaliwyd yng Nghasnewydd, gan hyrwyddo ansawdd a threftadaeth Cig Oen Cymru PGI, Cig Eidion Cymru PGI, a Phorc o Gymru i gynulleidfa fyd-eang o weithwyr coginio proffesiynol.
Gan weithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, ymgysylltodd HCC â chogyddion rhyngwladol, arweinwyr y diwydiant, ac arbenigwyr lletygarwch a oedd yn mynydchu’r digwyddiad dylanwadol, sy'n dod â chynrychiolwyr sector coginio ynghyd o bob cwr o’r byd . Roedd y gyngres, a gynhaliwyd yng Nghymru am y tro cyntaf, yn lwyfan pwysig i dynnu sylw at gymwysterau unigryw cig coch Cymru o ran tarddiad a chynaliadwyedd.
Roedd gan ymwelwyr â'n stondin gyfle i flasu seigiau a oedd yn arddangos blas unigryw ac olrheinedd Cig Oen Cymru PGI a Chig Eidion Cymru PGI, yn ogystal â phorc o ansawdd uchel a gynhyrchir yng Nghymru. Pwysleisiodd y sesiynau blasu bwysigrwydd daearyddiaeth, arferion ffermio traddodiadol, a safonau cynhyrchu llym sy'n sail i'r statws Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI).
Denodd y Gyngres Worldchefs yng Nghasnewydd gynrychiolwyr o dros gant o wledydd, gan roi cyfle digynsail i gynhyrchwyr Cymru ddod i gysylltiad â’r bobl hynny sy’n gwneud penderfyniadau allweddol i’r diwydiant bwyd yn fyd-eang. I HCC, mae'r digwyddiad yn gam pwysig o ran cynyddu’r ymwybyddiaeth a’r galw am gig Cymru a chryfhau ei bwysigrwydd yn y marchnadoedd coginio gorau.





