Croesawodd Cadeirydd HCC, Cath Smith, a’r Prif Weithredwr, José Peralta, y cyfle i gwrdd â Gweinidog Cabinet Llywodraeth Cymru dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd, ym Mae Caerdydd yr wythnos diwethaf. Roedd y drafodaeth adeiladol ac uchelgeisiol yn gyfle i rannu’r wybodaeth ddiweddaraf gyda’r Gweinidog Cabinet, Llyr Gruffydd, ar gynllun gweithredu strategol newydd HCC, yn ogystal ag archwilio’r heriau a’r cyfleoedd presennol sy’n wynebu’r sector cig coch.
Roedd ymrwymiad cyffredin i gryfhau gwydnwch a chynaliadwyedd y diwydiant, gyda ffocws penodol ar gydweithio ar draws y gadwyn gyflenwi. Roedd cytundeb hefyd ynghylch pwysigrwydd gweithio mewn partneriaeth i gefnogi cynhyrchwyr, proseswyr a’r sector ehangach.
Wrth siarad ar ôl y cyfarfod, dywedodd José Peralta: “Rydym yn edrych ymlaen at adeiladu perthynas waith gref a chynhyrchiol gyda’r Gweinidog yn y blynyddoedd i ddod, wrth inni barhau i ysgogi cynnydd a sicrhau dyfodol cadarnhaol a chynaliadwy i ddiwydiant cig coch Cymru.”




