Mae Hybu Cig Cymru (HCC) yn galw ar ffermwyr defaid ledled Cymru i gymryd rhan mewn cyfnod tair-blynedd newydd a chyffrous o Geneteg Defaid Cymru, rhaglen sydd â’r nod o gefnogi dyfodol ffermio defaid drwy wella perfformiad, effeithlonrwydd a chynaliadwyedd amgylcheddol diadelloedd.
O heddiw ymlaen (1 Gorffennaf), anogir bridwyr defaid mamol a mynydd i gofrestru eu diddordeb mewn ymuno â’r rhaglen, sydd wedi’i chynllunio i gefnogi penderfyniadau bridio ymarferol sy’n seiliedig ar dystiolaeth ac sy’n sicrhau buddion hirdymor i fusnesau ffermio.
Mae’r rhaglen, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, yn adeiladu ar y sylfeini cadarn a sefydlwyd drwy’r Cynllun Hyrddod Mynydd a chyfnod cyntaf Geneteg Defaid Cymru. Mae’r ail gyfnod hwn yn cynnig mynediad i ffermwyr at offer a chymorth i’w helpu i ddatgloi llawn botensial eu diadelloedd.
Bydd ffermwyr sy’n ymuno â’r rhaglen yn manteisio ar becyn cymorth sy’n cynnwys:
- Samplu DNA a genoteipio ŵyn wedi’u hariannu’n llwyr yn y flwyddyn gyntaf ar gyfer gwirio rhianta DNA
- Gwerthusiadau genetig wedi’u hariannu i lywio penderfyniadau bridio
- Sganio uwchsain braster cefn wedi’i ariannu
- Meincnodi perfformiad diadelloedd
- Mynediad at dechnoleg genetig a genomig flaenllaw
- Canllawiau ar gofnodi pedigri â llaw ac ar sail DNA
Bydd cyfranogwyr hefyd yn derbyn cynlluniau gweithredu bridio wedi’u teilwra, gan gyfrannu ar yr un pryd at ymchwil ac arloesedd ehangach o fewn sector defaid Cymru.
Meddai Dr Eleri Thomas, Swyddog Gweithredol Effeithlonrwydd a Chynaliadwyedd y Diwydiant yn HCC:
“Mae’r rhaglen hon yn rhoi cyfle gwerthfawr i ffermwyr fanteisio ar fuddion gwelliant genetig, gyda chefnogaeth drwy gyngor ymarferol a thechnolegau arloesol. Bydd y data a gesglir yn helpu i gryfhau perfformiad diadelloedd, gwella cyfleoedd marchnata a chefnogi cynllunio hirdymor ar gyfer y diwydiant.
“Os oes gennych ddiddordeb mewn casglu data a chofnodi perfformiad, ac os ydych yn awyddus i ymgysylltu â gwelliant a gwerthusiadau genetig, byddem yn falch o glywed gennych.”
Cynhelir cyfres o gyfarfodydd ledled Cymru yn ystod mis Gorffennaf a dechrau Awst, lle bydd ffermwyr yn gallu dysgu mwy am y rhaglen a’r broses ymgeisio. Rhaid cyflwyno ceisiadau erbyn 14 Awst.
Mae rhagor o fanylion a’r ffurflen gais ar gael yma: Geneteg Defaid Cymru - Hybu Cig Cymru




