Skip to content
Eat Welsh Lamb & Welsh Beef

Cafodd treftadaeth, cymeriad ac enw da unigryw Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru eu cydnabod gan y Comisiwn Ewropeaidd trwy ennill statws prin Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI).

Visit website
Porc Blasus

Mae Cymru’n enwog am gynhyrchu Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru o safon, ond ddylen ni ddim anghofio am ein porc.

Visit website
Hwb Cig Coch

Mae'r Hwb Cig Coch yn cefnogi’r rhai sy’n gweithio mewn iechyd ac addysg trwy ddarparu adnoddau gwybodaeth a dysgu manwl ynghylch cig coch a maeth, diet cytbwys, tarddiad a diogelwch bwyd, prynu, storio, paratoi a choginio cig coch.

Share

Gwahoddir ymwelwyr â Sioe Frenhinol Cymru i ddarganfod y gwasanaethau gwartheg diweddaraf sydd ar gael trwy EIDCymru, gwasanaeth olrhain symudiadau da byw ar-lein ar gyfer Cymru.  

Mae EIDCymru eisoes yn gyfarwydd i ffermwyr defaid ledled Cymru, a bellach mae’n cynnig gwasanaethau i ffermwyr gwartheg. Bydd tîm EIDCymru wrth law yn y sioe i ddarparu gwybodaeth, ateb cwestiynau a helpu ffermwyr i greu eu cyfrifon gwartheg. 

Ers 1 Gorffennaf 2026, mae ffermwyr gwartheg yng Nghymru yn gallu cofrestru gydag EIDCymru i wirio eu statws BVD (dolur rhydd feirysol buchol) a gweld gwybodaeth am statws y fuches ac anifeiliaid unigol. Mae system newydd EIDCymru wedi'i chynllunio i gasglu a lledaenu canlyniadau profion BVD Cymru gan ganiatáu i geidwaid gwartheg a milfeddygon i leihau'r risg o BVD ar eu ffermydd. Mae’r cymhelliad hwn dan arweiniad y diwydiant yn dangos sut y gall ffermwyr, milfeddygon a'r llywodraeth gydweithio i fonitro iechyd buchesi yn yr ymdrech i ddileu'r clefyd ledled Cymru  

Er mwyn gwneud y cofrestru mor syml â phosibl, mae EIDCymru wedi cynhyrchu fideos cam-wrth-gam i arwain ffermwyr drwy'r broses o greu cyfrif. Mae modd gweld y rhain ar sianel YouTube EIDCymru: EIDCymru - YouTube  

Meddai Arweinydd EIDCymru, Gwion Aeron: "Rydym yn annog pawb sy’n cadw gwartheg yng Nghymru i greu cyfrif gwartheg ar wefan EIDCymru i gael mynediad at eu canlyniadau BVD.” 

Mae system BVD wedi ei datblygu ar yr un llwyfan a fydd yn cefnogi gwasanaethau cofrestru, symud a marwolaethau gwartheg a fydd yn cael eu trosglwyddo o Wasanaeth Symud Gwartheg Prydain (BCMS) i EIDCymru.  Mae Gwasanaeth Gwartheg EIDCymru yn cael ei gyflwyno mewn cyfres o gamau i leihau'r risg i olrhain gwartheg Cymru a Phrydain, ynghyd â lleihau’r baich o newid ar y diwydiant, a sicrhau bod cefnogaeth briodol ar gael drwy gydol y broses. Drwy gofrestru nawr ar gyfer gwasanaeth BVD EIDCymru, bydd ceidwaid wedi cofrestru yn barod ar gyfer y gwasanaethau gwartheg unwaith y bydd BCMS yn trosglwyddo i EIDCymru.  

Ychwanegodd Gwion: “Am y tro, y newid allweddol i ffermwyr yw bod gwybodaeth am statws BVD ar gael ar-lein drwy EIDCymru. Mae’n gorwedd ochr yn ochr â'r gwasanaethau ar-lein sydd eisoes ar gael ar gyfer adrodd symudiadau defaid, geifr a cheirw. 

“Mae’r Sioe Fawr yn gyfle delfrydol i ffermwyr gwartheg ddysgu mwy am y newidiadau sydd ar ddod, gweld sut mae'r system yn gweithio a sicrhau eu bod yn barod ar gyfer y newid. Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon, neu os hoffech gael cymorth i sefydlu eich cyfrif defaid neu wartheg, dewch i'n gweld yn Sioe. Bydd ein tîm ymroddedig yn hapus i’ch helpu.” 

You may also like

Archwiliwch wasanaethau gwartheg newydd EIDCymru yn Sioe Frenhinol Cymru
Archwiliwch wasanaethau gwartheg newydd EIDCymru yn Sioe Frenhinol Cymru
Lansio ymgyrch: ‘Naturiol a Lleol. Chwiliwch am y Logo’
Lansio ymgyrch: ‘Naturiol a Lleol. Chwiliwch am y Logo’
Cyfyngiadau cyflenwad yn parhau i gynnal marchnadoedd ŵyn
Cyfyngiadau cyflenwad yn parhau i gynnal marchnadoedd ŵyn
Pwysigrwydd cynyddu gwerth carcas i’r eithaf
Pwysigrwydd cynyddu gwerth carcas i’r eithaf