Skip to content
Eat Welsh Lamb & Welsh Beef

Cafodd treftadaeth, cymeriad ac enw da unigryw Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru eu cydnabod gan y Comisiwn Ewropeaidd trwy ennill statws prin Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI).

Visit website
Porc Blasus

Mae Cymru’n enwog am gynhyrchu Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru o safon, ond ddylen ni ddim anghofio am ein porc.

Visit website
Hwb Cig Coch

Mae'r Hwb Cig Coch yn cefnogi’r rhai sy’n gweithio mewn iechyd ac addysg trwy ddarparu adnoddau gwybodaeth a dysgu manwl ynghylch cig coch a maeth, diet cytbwys, tarddiad a diogelwch bwyd, prynu, storio, paratoi a choginio cig coch.

Visit website
Eat Welsh Lamb & Welsh Beef

Cafodd treftadaeth, cymeriad ac enw da unigryw Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru eu cydnabod gan y Comisiwn Ewropeaidd trwy ennill statws prin Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI).

Visit website
Porc Blasus

Mae Cymru’n enwog am gynhyrchu Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru o safon, ond ddylen ni ddim anghofio am ein porc.

Visit website
Hwb Cig Coch

Mae'r Hwb Cig Coch yn cefnogi’r rhai sy’n gweithio mewn iechyd ac addysg trwy ddarparu adnoddau gwybodaeth a dysgu manwl ynghylch cig coch a maeth, diet cytbwys, tarddiad a diogelwch bwyd, prynu, storio, paratoi a choginio cig coch.

Visit website

HCC yn lansio Gwersi o’r Gegin

By creo

Mae athrawon ysgolion cynradd ac uwchradd yn cael eu hannog i gofrestru ar gyfer cylchlythyr newydd sy’n canolbwyntio ar gig coch, sgiliau coginio a maeth – ac mae ganddynt gyfle i ennill gweithdy cig coch pwrpasol a gyflwynir yn yr ysgol gan Hybu Cig Cymru (HCC). Mae Gwersi o’r Gegin – The Kitchen Classroom yn gylchlythyr chwarterol … Continued

GrassCheck GB yn dathlu pum mlynedd o gefnogi glaswelltir yn y DU gyda digwyddiad ar fferm yng ngogledd Cymru

By creo

Mae prosiect GrassCheck GB yn dathlu pum mlynedd o wella cynhyrchiant glaswelltir yng Nghymru, Lloegr a’r Alban. Prosiect ar y cyd yw hi, rhwng y cyrff ardoll Hybu Cig Cymru (HCC), Agriculture and Horticulture Development Board (AHDB) a Quality Meat Scotland (QMS), sefydliadau o’r diwydiant, Canolfan UK Agri-Tech ac ymchwilwyr o’r Sefydliad Bwyd-Amaeth a Biowyddorau … Continued

Trwybwn cig oen ychydig yn uwch na’r disgwyl ond pryderon o hyd

By creo

Roedd y ffigurau diweddaraf ar gyfer ŵyn yn cael eu prosesu ychydig yn uwch na’r disgwyl, yn ôl yr ystadegau diweddaraf gan Defra, a chroesawyd hyn gan Hybu Cig Cymru (HCC).  Fodd bynnag, mae’r corff hybu cig coch wedi mynegi pryderon am y gostyngiad cyffredinol yn nifer yr ŵyn sy’n cael eu cynhyrchu. Er bod … Continued

Gobaith allforio mwy o gig coch wrth i nifer da byw yr UE grebachu

By creo

Mae ffigurau allforio cig eidion yn ystod misoedd cyntaf eleni yn dangos cynnydd – a gallai’r cynnydd barhau oherwydd yn ôl yr ystadegau diweddaraf mae llai o gig coch yn cael ei gynhyrchu yng ngwledydd yr UE. Yn ystod chwarter cyntaf y flwyddyn, allforiodd Prydain 27,150 tunnell o gig eidion, sef 3.7 y cant yn … Continued

HCC yn amlygu manteision olrhain gydag arbenigwyr yn eu maes

By Nia

Mae defnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf a gweithio gyda’r gadwyn gyflenwi yn hanfodol er mwyn diogelu manteision Cig Oen Cymru PGI a Chig Eidion Cymru PGI. Yn rhinwedd ei swyddogaeth fel gwarcheidwad brand ar gyfer y sector cig coch, mae Hybu Cig Cymru (HCC) yn gweithio’n agos gydag Oritain, sy’n defnyddio gwyddoniaeth fforensig arloesol i wirio tarddiad … Continued

HCC yn cyhoeddi cyllid newydd i brosiect peilot ar besgi gwartheg cig eidion

By Nia

Mae prosiect peilot newydd, sy’n ceisio hybu proffidioldeb a chynaliadwyedd sector Cig Eidion Cymru, wedi derbyn grant o £100,000, meddai cyhoeddiad gan Hybu Cig Cymru (HCC). Bydd y prosiect – Datgarboneiddio Cig Eidion Cymru PGI – yn gwerthuso effaith amrywio oedran pesgi gwartheg cig eidion ar enillion economaidd ac allyriadau nwyon tŷ gwydr. HCC sy’n … Continued

HCC yn dringo mynyddoedd er budd iechyd meddwl

By Nia

Mae tîm ymroddedig o staff Hybu Cig Cymru (HCC) ac EID Cymru ar fin mynd i’r afael â thri chopa uchaf Cymru ar drothwy Wythnos Iechyd Meddwl (13-19 Mai 2024) sydd â’r thema:  ‘Symud: Symud mwy er lles ein hiechyd meddwl’. Bydd deunaw aelod y tîm yn cychwyn yn oriau mân ddydd Sadwrn 11 Mai … Continued

HCC yn arddangos arbenigwyr yn eu meysydd i ymwelwyr o’r Eidal

By creo

Roedd hanes cynaliadwyedd Cig Oen Cymru PGI a Chig Eidion Cymru PGI, yn ogystal â’u blas danteithiol a maethlon, yn cael y prif sylw pan groesawodd Hybu Cig Cymru (HCC) ddirprwyaeth fasnach o’r Eidal i helpu i gryfhau’r berthynas allforio. Yn ystod yr ymweliad, a oedd yn cynnwys taith o amgylch y cyfleusterau prosesu ar … Continued