Yn ddiweddar, bu’r Brenin Siarl yn blasu Cig Oen Cymru PGI yn un o wledydd mwyaf gastronomig y byd, sef yr Eidal. Yn ystod ymweliad â’r Eidal ym mis Ebrill, daeth y Brenin Siarl III a’r Frenhines Camilla â’u taith i ben yn ninas Ravenna yng ngogledd-ddwyrain y wlad. Eu gorchwyl olaf oedd ym marchnad y ddinas yn y Piazza del Popolo, lle mynychwyd marchnad fwyd a chael cyfle i gwrdd â ffermwyr a chynhyrchwyr lleol i ddathlu safon uchel bwydydd yr Eidal a’r Deyrnas Gyfunol.
Cafodd y cogydd poblogaidd, Carlo Cracco, a agorodd fwyty Terra yn Llundain yn ddiweddar, yr anrhydedd o goginio unwaith eto i’r teulu brenhinol. Y tro hwn, creodd rysáit arbennig: “Toes pwff grawn hynafol, caws ricotta, pupryn a ham Cig Oen Cymru”.
Gwnaed y digwyddiad yn fwy arbennig byth gyda chymorth Sangiovese Colle Giove 2022, gwin coch y mae’r cogydd yn ei gynhyrchu ar ei ystâd amaethyddol, Vistamare, yn Sant’Arcangelo di Romagna.
“Roedd yn anrhydedd fawr i gwrdd â’i Uchelder Brenhinol”, meddai Carlo Cracco. “Trwy gelfyddyd coginio gallwn adrodd straeon, adeiladu pontydd rhwng gwahanol ddiwylliannau a dathlu’r hyn sy’n ein huno: yr angerdd o ran ansawdd, y diriogaeth a’r traddodiadau”.<0}
“Mae’r Sangiovese Colle Giove, gyda’i nodau dwys a chrwn, yn cyfuno’n berffaith â blas cynnil ond nodedig Cig Oen Cymru PGI”, ychwanegodd y cogydd.
Cefnogwyd y digwyddiad gan Anna Garbagna a Sara Castelnuovo, cynrychiolwyr Hybu Cig Cymru (HCC) yn yr Eidal.
Dywedodd Anna Garbagna: “Roedd hwn yn gyfle gwych i hyrwyddo ac amlygu Cig Oen Cymru PGI gyda brenin y Deyrnas Gyfunol, gan gadarnhau enw da Cig Oen Cymru fel bwyd o’r safon uchaf.”
Meddai Arweinydd Datblygu Marchnad HCC, Jason Craig: “Mae’r Eidal wedi bod yn farchnad allweddol ers tro byd i HCC ac allforion Cig Oen Cymru, ac ar hyn o bryd yr Eidal yw’r farchnad fwyaf ar gyfer Cig Oen Cymru â brand PGI . Mae’r Eidalwyr yn enwog ledled y byd am eu hoffter o gynnyrch bwyd ffres o ansawdd uchel ac mae’n wych gweld bod y berthynas glos rhwng yr Eidal a Chig Oen Cymru yn dal i ffynnu.”