Skip to content
Eat Welsh Lamb & Welsh Beef

Cafodd treftadaeth, cymeriad ac enw da unigryw Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru eu cydnabod gan y Comisiwn Ewropeaidd trwy ennill statws prin Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI).

Visit website
Porc Blasus

Mae Cymru’n enwog am gynhyrchu Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru o safon, ond ddylen ni ddim anghofio am ein porc.

Visit website
Hwb Cig Coch

Mae'r Hwb Cig Coch yn cefnogi’r rhai sy’n gweithio mewn iechyd ac addysg trwy ddarparu adnoddau gwybodaeth a dysgu manwl ynghylch cig coch a maeth, diet cytbwys, tarddiad a diogelwch bwyd, prynu, storio, paratoi a choginio cig coch.

Share

Wrth i ni baratoi ar gyfer digwyddiadau fel Diwrnod Rhyngwladol y Menywod (8 Mawrth) a Sul y Mamau (10 Mawrth), mae Hybu Cig Cymru (HCC) wedi lansio casgliad o ryseitiau i gyd-fynd â’i ymgyrch i ymgysylltu â defnyddwyr – Pa mor bell yw'ch fforc o'n porc?

Nod yr ymgyrch yw codi ymwybyddiaeth o argaeledd, manteision ac atyniad Porc Blasus i gynulleidfa o ddefnyddwyr yng Nghymru.

Dywedodd Swyddog Gweithredol Ymgyrchoedd HCC, Philippa Gill: “Mae  Diwrnod Rhyngwladol y Menywod a Sul y Mamau yn gyfleoedd gwych i ddathlu’r menywod anhygoel yn ein bywydau ac mae’r ymgyrch yn cynnwys ryseitiau sy’n tynnu dŵr i’r dannedd ac sy’n defnyddio’r cynhwysion gorau, gan gynnwys lwyn porc rhost a bol porc wedi’i rostio’n araf.

Mae’n atgoffa’r sawl sy’n dewis Porc Blasus eu bod nid yn unig yn rhoi pryd sbesial i’w hanwyliaid, ond hefyd yn cefnogi’r ffermwyr a’r busnesau lleol sy’n cynhyrchu ein porc.”

Mae Porc Blasus yn dod o ffermydd bach, lle mae moch yn cael eu magu dan amodau naturiol ac yn cael eu bwydo ar ddiet cytbwys.

Drwy gydol yr ymgyrch, mae HCC yn helpu pobl i ddod o hyd i’w porc yn lleol, lle bynnag y maen nhw’n byw yng Nghymru.

You may also like

HCC yn gwrando ar randdeiliaid i greu gweledigaeth i’r dyfodol
HCC yn gwrando ar randdeiliaid i greu gweledigaeth i’r dyfodol
Cryfhau perthynas â’r Eidalwyr wrth i’r Brenin Siarl fwynhau Cig Oen Cymru PGI yn yr Eidal
Cryfhau perthynas â’r Eidalwyr wrth i’r Brenin Siarl fwynhau Cig Oen Cymru PGI yn yr Eidal
Prinder cyflenwad yn golygu’r prisiau cig eidion gorau erioed
Prinder cyflenwad yn golygu’r prisiau cig eidion gorau erioed
Clwb Swper Cynaliadwy ar gyfer Cig Eidion Cymru
Clwb Swper Cynaliadwy ar gyfer Cig Eidion Cymru