Mae’r bwrdd ardoll cig coch Hybu Cig Cymru (HCC) yn casglu barn talwyr ardoll i helpu i siapio cyfeiriad strategol y diwydiant i’r dyfodol.
Mae arolwg ar-lein yn dod yn fyw yr wythnos hon [20 Mai] i gasglu barn talwyr ardoll ac i gyfrannu at ‘Gweledigaeth 2030’ newydd HCC - dogfen strategol bwysig sy’n gosod blaenoriaethau’r sefydliad i gefnogi’r diwydiant cig coch am y pedair blynedd nesaf.
Bydd yr arolwg ar agor nes dydd Gwener 25 Gorffennaf. Cliciwch yma i agor yr arolwg.
Meddai Prif Weithredwr HCC, José Peralta: “Daw pwrpas strategol HCC, sydd wedi’i danategu gan Fesur Diwydiant Cig Coch (Cymru) 2010, o’i ddogfen gweledigaeth. Wrth i ni edrych at ddiwedd y weledigaeth bresennol, mae’n rhaid i ni gynllunio ar gyfer y nesaf. Rwyf wedi cyfarfod sawl grŵp o randdeiliaid allweddol i ddechrau’r drafodaeth yma’n ddiweddar, a’r arolwg yw’r cam nesaf i gasglu barn y diwydiant ar yr heriau a’r blaenoriaethau, a beth gall HCC ei wneud i’w gefnogi.
“Mae’r arolwg yn rhan o gynllun ymgysylltu ehangach a gaiff ei gwblhau yn ystod 2025, a fydd yn cynnwys cyfarfodydd a phresenoldeb HCC mewn marchnadoedd da byw a digwyddiadau, a’r cyntaf yw digwyddiad NSA Welsh Sheep wythnos yma [dydd Mercher 21 Mai] ar Fferm Tregoyd, Aberhonddu. Gofynnwn i dalwyr ardoll ddod i siarad efo ni mewn digwyddiadau, neu lenwi ein holiadur ar-lein i gael dweud eich dweud. Mae’n hanfodol bod rhanddeiliaid o bob cwr o Gymru yn cyfrannu at y broses fel bod HCC yn gwbl ymwybodol o’r heriau cymhleth o fewn y diwydiant.”